'Mae 'na griw mawr sy'n methu Ty'n Llan'

Mae menter leol sy'n prynu tafarn yn Llandwrog ger Caernarfon wedi llwyddo i werthu dros £315,000 mewn cyfranddaliadau wrth i'w hymgyrch fynd o nerth i nerth.

Mae'r fenter eisoes wedi llwyddo i gael £350,000 mewn benthyciadau gan amryw o ffynonellau er mwyn prynu tafarn Ty'n Llan, a hynny mewn wythnos yn unig.

Ond er mwyn talu'r addewidion hynny yn ôl maen nhw'n gwerthu cyfranddaliadau yn y dafarn.

Gobaith Menter Ty'n Llan ydy gwerthu gwerth £400,000 o gyfranddaliadau, a dyma'r wythnos olaf i'w prynu.

Mae modd prynu siâr yn y fenter am £100 yr un, ond mae'r cyfle i wneud hynny yn cau am hanner nos, nos Wener, 11 Mehefin.

Mae nifer o enwogion wedi ymddangos mewn fideos i ddymuno'n dda i'r fenter - ynghyd â rhai o'r trigolion brwd.