£350,000 wedi'i addo mewn wythnos i brynu tŷ tafarn

  • Cyhoeddwyd
Ty'n Llan, Llandwrog
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ty'n Llan ar gau ers dros dair blynedd

Mae trigolion Llandwrog ger Caernarfon yn gobeithio bwrw mlaen i brynu tafarn y pentref, wedi iddyn nhw lwyddo i gael addewidion o £350,000 mewn llai nag wythnos.

Mae tafarn Ty'n Llan wedi bod ynghau ers dros dair blynedd, a gobaith y pentrefwyr ydi ei hailagor fel menter gymunedol.

Yn ogystal â bod yn dafarn, gallai'r adeilad 200 mlwydd oed hefyd gael ei ddefnyddio fel canolfan gymunedol, caffi, a siop.

"Gafon ni ymateb anhygoel, a d'eud y gwir," meddai Caryl Lewis, un o'r gwirfoddolwyr tu ôl i'r cynllun.

"Mae o jest yn dangos fod pobl yn teimlo'n gryf dyl'a ni fod yn buddsoddi yn Ty'n Llan fel menter gymunedol.

"Mae'n adeilad rhestredig, a mae'n adeilad hardd iawn. Mae o'n dyddio nôl i 1830, a mae'n bechod weld o'n dirywio."

Y bwriad rŵan ydi troi'r addewidion ariannol i fenthyciadau, ac yna i drigolion lleol brynu cyfranddaliadau yn y fenter.

Mae'r pentrefwyr yn hyderus mai nhw fydd perchnogion newydd Ty'n Llan o fewn y misoedd nesaf.

Disgrifiad,

Addewidion o gefnogaeth ariannol i helpu ailagor tafarn

Pynciau cysylltiedig