Y golwr tawel gyda 'dwylo saff a thraed balerina'
Trwy sicrhau gwell gwahaniaeth goliau na'r Swistir y llwyddodd Cymru i orffen yn ail yn eu grŵp ym mhencampwriaeth Euro 2020 a bachu lle yn rownd yr 16 olaf.
Mae'n amlwg felly erbyn hyn pa mor dyngedfennol oedd rhai o arbedion campus y gôl-geidwad Danny Ward yn ystod y gemau grŵp.
Wrth i Gymru wynebu Denmarc yn Amsterdam brynhawn Sadwrn fe fydd yn gobeithio cael y gorau ar Kasper Schmeichel - ei gyd-golwr yn Leicester City a dewis cyntaf y clwb rhwng y pyst.
Mae diddordeb arbennig yng ngyrfa'r golwr o Wrecsam ymhlith staff a disgyblion ei hen ysgol, sef Ysgol Uwchradd Penarlâg.
Osian Jones oedd ei gyn-athro daearyddiaeth.