Euro 2020: Cymru drwodd i rownd 16 olaf er colli'n Rhufain
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru drwodd i rownd 16 olaf yr Ewros er iddyn nhw golli i'r Eidal yn Rhufain ddydd Sul mewn gêm anodd.
Bu'n rhaid i Gymru chwarae gyda 10 chwaraewr am ran helaeth o'r ail hanner wedi cerdyn coch i Ethan Ampadu.
Y tîm cartref oedd yn rheoli'r chwarae drwy gydol yr hanner cyntaf, gyda'r Eidal yn bygwth o'r cychwyn cyntaf.
Fe sgoriodd Matteo Pessina i roi'r Azzurri ar y blaen cyn hanner amser gyda chyffyrddiad clyfar o gic rydd Marco Verratti.
Ar ôl 54 munud aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru gyda'r dyfarnwr yn rhoi cerdyn coch i Ampadu am sefyll ar bigwrn Federico Bernadeschi.
Ond er i Gymru orfod chwarae gydag ond 10 chwaraewr am weddill y gêm, llwyddodd tîm Robert Page i ddal eu tir ac atal Yr Eidal rhag sgorio yn yr ail hanner.
Daeth cyfle gorau Cymru i sgorio pan gafodd gic rydd i Gymru ei phenio'n ôl ar draws y cwrt tuag at Gareth Bale. Disgynnodd yn berffaith ar ei droed chwith, ond ergydiodd y capten y bêl dros y trawst.
Er hyn, bydd Cymru'n teimlo'n galonogol yn gorffen yn ail yn y grŵp a'n cyrraedd yr 16 olaf ar ôl i'r Swistir fethu a sgorio digon o goliau yn erbyn Twrci ddydd Sul i symud Cymru i'r trydydd safle.
Bydd Cymru'n chwarae yn erbyn y tîm sy'n gorffen yn ail yng Ngrŵp B ddydd Sadwrn nesaf yn Amsterdam.
'Eidal yn rheoli'r gêm'
Dechreuodd tîm Robert Page y gêm yn hyderus gyda chiciau rhydd cynnar iddyn nhw'n dilyn troseddau gan yr Eidal.
Ond ni lwyddon nhw i gadw'r bêl am gyfnodau hir a doedden nhw methu cael allan o'u hanner nhw, gyda'r Eidal yn cadw 69% o'r meddiant yn yr 20 munud cyntaf a'n rheoli'r gêm.
Roedd digonedd o gyfleoedd i'r Eidal sgorio, gydag Andrea Belotti yn methu croesiad i'r cwrt gan fodfeddi'n unig ryw chwarter awr mewn i'r gêm, ond methodd a chael cysylltiad digon da i rwydo'r bêl.
Ond roedd fflachiadau gwell gan Gymru gyda chwarae da rhwng Neco Williams ac Ethan Ampadu i lawr yr asgell, a'r croesiad yn mynd i mewn i'r cwrt.
Ond methodd Joe Allen a chadw'r bêl dan ei reolaeth, ac aeth yr Eidalwyr a'r bêl syth i lawr i'r pen arall eto gyda Belotti'n taro ergyd ar draws y gôl.
A daeth cyfle i Gymru sgorio 26 munud mewn wrth i Chris Gunter - a oedd yn ennill cap rhif 102 dros ei wlad - benio'r bêl fodfeddi i ffwrdd o'r gôl.
Roedd Danny Ward yn gwneud gwaith campus yn arbed pêl ar ôl pêl rhag cael eu rhwydo, ond daeth gôl o'r diwedd cyn yr egwyl.
Parhaodd Yr Eidal i bwyso a chael cic rydd ar ôl trosedd gan Joe Allen ar Veratti. Aeth y bêl mewn o ardal beryglus gan Veratti a chyffyrddodd Pessina â'r bêl ar y postyn blaen.
Dechreuodd yr ail hanner gyda Bernadeschi yn taro'r postyn ar ôl cael cic rydd.
Cafodd Cymru cyfleoedd hefyd gydag Aaron Ramsay'n dwyn y bêl yng nghwrt Yr Eidal. Ond oedodd cyn ergydio, gan roi cyfle i'r golwr Gianluigi Donnarumma flocio'r bêl.
Trobwynt y gêm oedd pan gafodd Ampadu ei hel o'r cae am dacl hwyr ar Frederico Bernadeschi. Ergyd galed i Gymru gydag ond 10 chwaraewr ar y cae am weddill y gêm.
Daeth Kieffer Moore ymlaen i'r cae yn lle Joe Morrell gyda 31 munud i fynd wrth i Gymru geisio cael gafael ar yr ornest unwaith eto.
Parhaodd Yr Eidal i ymosod yn ddidrugaredd ond llwyddodd Cymru i atal gôl arall, gyda Danny Ward yn gwneud arbediad arbennig i atal Andrea Belotti rhag sgorio o chwe llath.
Daeth cyfle gorau Cymru i sgorio pan gafodd cic rydd i Gymru ei phenio'n ôl ar draws y cwrt tuag at Bale. Disgynnodd yn berffaith ar ei droed chwith, ond ergydiodd y capten y bêl dros y trawst.
Cafodd Chris Gunter a Pessina gardiau melyn wrth i'r ddau dîm barhau i droseddu yn y munudau olaf.
Roedd angen coesau ffres ar Gymru ac yn fuan daeth yr eilyddion David Brooks, Dylan Levitt, Ben Davies ymlaen, gyda'r capten Bale yn gadael y cae.
Gyda munudau i fynd saethodd Belotti unwaith eto tuag at y gôl, ond arbedodd Ward unwaith eto.
Llwyddodd y Cymry i gadw eu disgyblaeth a chwarae'n drefnus, a byddan nhw'n teimlo'n galonogol ar ôl chwarae gêm anodd gyda'r rhan fwyaf o'r ail hanner un chwaraewr lawr.
Mae'r canlyniad yn golygu mai'r Eidal sy'n gorffen ar frig y grŵp, gyda Chymru'n ail ar ôl i'r Swistir fethu â sgorio digon o goliau, er gwaethaf buddugoliaeth o 3-1 yn erbyn Twrci yn Baku.
Bydd gêm nesaf Cymru ddydd Sadwrn nesaf yn Amsterdam, yn erbyn y tîm sy'n ail yng Ngrŵp B - naill a'i Gwlad Belg, Rwsia, Y Ffindir neu Denmarc.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2021