'Rhaid trio achub gymaint o swyddi yn Y Fali â phosib'
Mae gwleidyddion a chynrychiolwyr undeb wedi cynnal cyfarfod ger safle'r Awyrlu yn Y Fali yn Ynys Môn i drafod eu camau nesaf wedi penderfyniad y Weinyddiaeth Amddiffyn i ddod â'r defnydd o awyrennau T1 Hawk i ben y flwyddyn nesaf.
Mae pryderon y bydd hyd at 70 o swyddi'n cael eu colli o ganlyniad, a fyddai'n ergyd fawr i ardal sydd eisoes wedi gweld diboblogi yn y blynyddoedd diwethaf - yn arbennig ymhlith pobl ifanc.
Yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn fe fyddai'r newidiadau'n sicrhau arbedion a fydd yn cael eu "hail-fuddsoddi" yn y maes.
Mae ymgyrchwyr bellach yn ceisio perswadio gweinidogion i symud gwaith cynnal a chadw awyrennau'r Red Arrows i Fôn, gan fod disgwyl i'r tîm campau hedfan barhau i ddefnyddio'r T1 Hawk tan 2030.
Mae'r peiriannydd Gwilym Owen yn gweithio ar yr awyrennau Hawk yn Y Fali ers 12 mlynedd.