Pryder am golli 70 o swyddi ym maes awyr Y Fali

  • Cyhoeddwyd
RAF ValleyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Undeb Unite fod y penderfyniad yn ergyd fawr i'r economi leol

Fe fydd hyd at 70 o swyddi yn diflannu o faes awyr yr awyrlu yn Y Fali ar Ynys Môn, yn ôl undeb Unite.

Mae'r undeb yn dweud y gallai'r swyddi ddiflannu erbyn Mawrth y flwyddyn nesaf wrth i'r defnydd o awyrennau Hawk ddod i ben fel rhan o ad-drefnu'r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Dywed Unite fod y cynlluniau yn "ergyd fawr i'r gweithlu" a bydd yn golygu colli swyddi da.

Yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn fe fydd y newidiadau yn sicrhau arbedion fydd yn cael eu "hail-fuddsoddi" yn y maes amddiffyn.

'Sioc'

Dywedodd Daryl Williams o undeb Unite fod y newyddion yn ergyd i'r economi leol.

"Doedd y penderfyniad ynglŷn â rhoi'r gorau i'r T1 Hawk ddim yn annisgwyl gan ei fod yn dilyn cyhoeddiad o Adolygiad Amddiffyn ond mae cyflymder y broses yn sioc i'n haelodau.

"Bydd hyd at 70 o swyddog a sgiliau uchel yn cael eu colli."

Yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn fe fydd staff sy'n gweithio ar yr awyrennau yn symud i swyddi eraill.

Dywedodd AS yr ynys, Virginia Crosbie, bod y newyddion yn "bryderus iawn" i weithwyr y safle sydd ddim yn rhan o'r lluoedd arfog.

Ychwanegodd ei bod yn deall y gallai'r colledion fod yn is na 70, ond y byddai'n "cysylltu gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn a'r contractwyr yn Y Fali i wneud popeth posib i leihau'r diswyddiadau...".

Pynciau cysylltiedig