Menyw a gollodd ei mam yn galw am ymchwiliad penodol i Gymru
Mae teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid i Covid-19 yn galw am ymchwiliad cyhoeddus penodol yng Nghymru ar y pandemig.
Yn ôl un o sylfaenwyr grŵp cyfiawnder i deuluoedd sy'n galaru, mae angen craffu'n ofalus ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru a pheidio bod yn droed-nodyn mewn adroddiad ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan.
Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu y bydd 'na benodau yn canolbwyntio ar ymateb Cymru yn rhan o'r ymchwiliad cyhoeddus ar gyfer y Deyrnas Unedig.
Mae Bethan Mair wedi colli ei mam a ffrind agos i Covid-19, ac mae hi ymysg y rheiny sy'n galw am ymchwiliad penodol i Gymru.