Covid: 'Ni'n haeddu ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Mae Bethan Mair, a gollodd ei mam a ffrind agos i Covid-19, ymysg y rheiny sy'n galw am ymchwiliad i Gymru

Mae dynes a gollodd ei thad gyda coronafeirws wedi galw am ymchwiliad i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi delio â'r pandemig.

Dywedodd Anna-Louise Marsh-Rees ei bod yn credu bod ei thad, Ian Marsh-Rees, wedi dal y feirws tra yn yr ysbyty.

Mae'n rhaid "craffu'n iawn" ar benderfyniadau sydd wedi eu gwneud yng Nghymru yn hytrach na bod yn "droed-nodyn" mewn ymchwiliad ledled y DU, meddai.

Bu farw Mr Marsh-Rees, 85, o'r feirws ym mis Hydref yn Ysbyty Nevill Hall, Y Fenni ar ôl cael ei dderbyn yno gyda phroblem gyda'i goden fustl (gall bladder).

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai ymchwiliad ledled y DU yw'r "ffordd orau i brofiadau pobl yng Nghymru gael eu deall yn iawn".

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ian Marsh-Rees, 85, o'r feirws ym mis hydref y llynedd ar ôl mynd i Ysbyty Nevill Hall

Dywedodd y bwrdd iechyd wrth Ms Marsh-Rees bod 13 o gleifion ar ward ei thad wedi profi'n bositif yn ystod ei arhosiad ysbyty, yn ogystal â 14 aelod o staff.

'Ni chafodd ei ofalu amdano'

Mae Ms Marsh-Rees, sylfaenydd y grŵp Covid Bereaved Families for Justice - Cymru, yn credu bod rheolaeth o'r haint wedi bod yn "wael" yn yr ysbyty.

"Symudodd o un gwely i'r llall nifer o weithiau. Roedd yn amlwg wedi dod wyneb yn wyneb â nifer o gleifion a staff," meddai.

"Yn gyffredinol, rydyn ni'n teimlo na chafodd ei amddiffyn, ni chafodd ei ofalu amdano."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Anna-Louise Marsh-Rees bod ei phrofiad o geisio cael gwybodaeth gan y bwrdd iechyd wedi ysgogi ei hymgyrch i gael atebion

Cafodd bron i chwarter y bobl sydd wedi marw gyda Covid yng Nghymru eu heintio yn yr ysbyty.

Mae profiad Ms Marsh-Rees o geisio cael gwybodaeth gan y bwrdd iechyd am yr hyn a ddigwyddodd bellach yn ysgogi ei hymgyrch i gael ymchwiliad cyhoeddus yng Nghymru.

"Mae'n rhaid i mi gael atebion i fy nhad - ymchwilio i hyn," meddai.

"Ar ran fy nhad a phawb arall fu farw o Covid, i'r teuluoedd sy'n galaru, i bobl â Covid hir, rydyn ni'n teimlo ein bod ni'n haeddu ymchwiliad sy'n benodol i Gymru."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Gwasanaethodd Ian Marsh-Rees yn y Royal Signals ym Malaysia a Singapore

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan eu bod yn parhau i estyn eu "cydymdeimlad dwysaf" i'r teulu Marsh-Rees.

"Ar yr adeg dan sylw, roedd darpariaeth ddigonol o PPE ar gael ac roedd staff yn parhau i gadw at weithdrefnau rheoli heintiau a amlinellwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd," meddai.

"Er bod llawer wedi'i ddysgu am reoli'r feirws hwn, bydd yr ymchwiliad cyhoeddus yn rhoi archwiliad pellach a bydd y bwrdd iechyd yn cefnogi'r broses hon yn llawn."

Dywedodd y cyfreithiwr Craig Court, sy'n cynrychioli'r grŵp Covid Bereaved Families for Justice - Cymru: "Un o'r amcanion allweddol yw ceisio cael mwy o dryloywder ac atebolrwydd am y digwyddiadau a effeithiodd nid yn unig ar y rhai fu farw yng Nghymru, ond ar y teuluoedd sydd wedi'u gadael ar ôl."

Ffynhonnell y llun, Getty Images, BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae pleidiau gwleidyddol wedi gwrthdaro yng Nghymru ynghylch yr angen am ymchwiliad penodol i'r wlad

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru wedi bod yn galw am ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru, ond cyn gwyliau'r haf pleidleisiodd ASau Llafur yn erbyn y cynnig yma.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Cytunwyd ar yr ymchwiliad ledled y DU rhwng y pedair gwlad.

"Rydym wedi gofyn bod penodau penodol o'r ymchwiliad yn delio'n llwyr â phrofiadau byw y rhai sydd yma yng Nghymru.

"Bydd gan ymchwiliad ledled y DU y gallu a'r grym i oruchwylio natur cyd-gysylltiedig y penderfyniadau a wnaed ar draws y pedair gwlad a dyma'r ffordd orau i brofiadau pobl yng Nghymru gael eu deall yn iawn."

Mae'r prif weinidog wedi dweud y bydd ymchwiliad yn y DU yn cychwyn yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf.