2011: Blwyddyn waethaf erioed tîm pêl-droed Cymru?

Roedd 2011 yn isafbwynt i dîm pêl-droed Cymru am sawl rheswm, gyda chyfnod Gary Speed fel rheolwr yn dechrau gyda chanlyniadau siomedig o flaen torfeydd isel.

Union ddeng mlynedd yn ôl, fe ddisgynnodd y tîm i'w safle isaf erioed yn rhestr detholion y byd FIFA - 117fed.

Ac fe orffennodd y flwyddyn ar y nodyn duaf posib, gyda marwolaeth annisgwyl Speed.

Mae'r cyn-chwaraewr Owain Tudur Jones, pennaeth cysylltiadau cyhoeddus CBDC, Ian Gwyn Hughes, a'r cefnogwr Elin Thomas wedi bod yn edrych yn ôl ar y cyfnod hwnnw - a thrafod beth sydd wedi newid yn y degawd ers hynny.