O 'dîm gwaethaf Cymru erioed' i ddau Ewros mewn 10 mlynedd
- Cyhoeddwyd
"'Dan ni ddim wedi gwella cymaint ag o'n i'n meddwl... mae o wedi rhoi cic fyny tinau pawb."
Dyna oedd asesiad di-flewyn-ar-dafod Gary Speed ar ôl gweld ei chwaraewyr yn colli 2-1 mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Awstralia mewn gornest fyddai'n dod yn garreg filltir yn hanes y tîm.
Lai na phythefnos yn ddiweddarach, ar 24 Awst 2011, fe gyhoeddodd FIFA eu rhestr detholion diweddaraf a chadarnhau mai dyma - yn swyddogol o leiaf - oedd tîm gwaethaf Cymru erioed.
Ond pa mor sâl oedd y garfan honno mewn gwirionedd? A sut lwyddodd tîm oedd wedi crwydro anialwch pêl-droed rhyngwladol am gyfnod mor hir gael dau dwrnament llwyddiannus yn y degawd oedd i ddod?
Dyma farn rhai o'r rheiny welodd y newidiadau drwy'r cyfnod hwnnw.
Blwyddyn waethaf Cymru?
Roedd 2011 i fod yn ddechrau newydd i Gymru, gyda'r cyn-gapten poblogaidd Gary Speed yn olynu John Toshack fel rheolwr ac yn addo newidiadau.
Un o'r heriau mwyaf oedd ceisio denu'r gefnogaeth yn ôl, gyda thorfeydd wedi pylu yn sgil blynyddoedd o ganlyniadau siomedig.
Ac mae Elin Thomas, sydd wedi bod yn dilyn y tîm gartref ac oddi cartref ers y 2000au, yn cyfaddef bod y tripiau i ddarganfod dinasoedd tramor newydd yn llawer mwy apelgar na gwylio'r tîm yng Nghaerdydd.
"Dwi'm yn cofio llawer am y teimlad yn y gemau cartref ar y pryd, hwyrach bod hwnna'n teimlo fel bach mwy o ddyletswydd i ddilyn y tîm!" meddai.
Roedd rhai o'r chwaraewyr yn teimlo'r un difaterwch, gyda llawer o absenoldebau yn ystod cyfnod Toshack a sawl un yn ymddeol yn gynnar o bêl-droed rhyngwladol.
"Roedd hwnna'n ryw gyfnod rhyfedd achos o' chdi'n cael gymaint o chwaraewyr oedd yn tynnu allan munud ola'," meddai Owain Tudur Jones, a enillodd saith cap dros Gymru rhwng 2008 a 2013.
"Felly bron â bod os oedd 'na garfan yn dod allan, doedd hwnna'm yn golygu dim bron a bod, achos o' chdi'n gwybod pan o'n ni'n cyrraedd y gêm nesa', ella 'sa 'na bump neu ddeg o newidiadau - oedd yn aml yn helpu fi!"
Fe chwaraeodd Jones ddwywaith yng nghystadleuaeth gyfeillgar angof y Nations Cup y flwyddyn honno, ac roedd ar y fainc wrth i'r Awstraliaid drechu'r crysau cochion ym "mhwynt isaf" Speed wrth y llyw.
Yn fuan wedi hynny roedd Cymru'n 117fed yn y rhestr detholion, dolen allanol - yn is na gwledydd fel Guatemala, Gogledd Corea a Haiti - gyda phennaeth cysylltiadau cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ian Gwyn Hughes, yn cofio'r feirniadaeth yn y cyfryngau.
"Yn sicr doedd o'm yn neud lles i ddelwedd neb," meddai. "Roedd pawb yn gwybod bod ni'n well na rhai o'r gwledydd oeddan ni o dan, ond roedd rhaid i ni ddechrau profi hynny mewn canlyniadau."
I'r chwaraewyr hefyd, roedd 'na "elfen o embaras" i'r peth.
"Wedyn ti'n stuck mewn rhyw dwll bach wedyn, sut ti'n dod allan ohona fo?" meddai Owain Tudur Jones.
"Roedd bob dim oddi ar y cae yn dechrau gwella, ond ar y cae doeddan ni jyst ddim cweit yn clicio."
Y chwyldro'n chwalu
Ar ôl cyfnod cychwynnol anodd, dechreuodd cyfnod Speed wrth y llyw ddwyn ffrwyth ac fe orffennodd Cymru'r flwyddyn gyda phedair buddugoliaeth yn eu pum gêm olaf.
Roedd newidiadau oddi ar y cae yn cynnwys annog yr holl chwaraewyr i ganu'r anthem fel ffordd o fagu cyswllt gyda'r cefnogwyr.
"Roedd o'n ffordd o geisio dangos bod ni'n barod i ailennill eu parch a'u cefnogaeth, oedd erbyn hynny falle'n teimlo bod bod 'na ddiffyg parch neu diffyg ymdeimlad o chwarae dros Gymru," meddai Ian Gwyn Hughes.
"Ond ddaru Gary newid hynny i gyd."
Wrth i flwyddyn siomedig i'r tîm ymddangos fel ei bod yn gorffen ar nodyn uchel, daeth yr ergyd fwyaf creulon - a sioc i'r byd pêl-droed cyfan - gyda marwolaeth Speed.
Ei ffrind a chyn gyd-chwaraewr Chris Coleman gafodd y dasg o baratoi'r garfan, oedd dal mewn sioc, ar gyfer yr ymgyrch ragbrofol nesaf i Gwpan y Byd 2014.
"Doeddat ti ddim yn canolbwyntio ar rinweddau rheoli y person [wrth benodi olynydd], ond rhinweddau a sgiliau personol y rheolwr ac fel unigolyn," meddai Ian Gwyn Hughes.
"Dwi'n credu'n wreiddiol dyna pam y cafodd Chris Coleman y swydd.
"Yr agosaf oedd genna ni at Gary oedd Chris, roedd y ddau yn dod o'r un cefndir o ran gemau rhyngwladol, roedd y ddau yn ffrindiau mawr, ac roedd y ddau efo'r un fath o bresenoldeb a chymeriad."
Ond dan yr amgylchiadau doedd hi ddim yn syndod pan aeth canlyniadau ar chwâl, gan gyrraedd penllanw gyda chrasfa o 6-1 oddi cartref yn Serbia.
"Roedd y cyfnod cynnar 'na yn anodd iawn ac mae'n hawdd beirniadu perfformiadau, canlyniadau ar ôl beth ddigwyddodd," meddai Owain Tudur Jones.
"Ond 'sa neb yn gallu rhoi eu hunain yn sgidiau'r chwaraewyr 'na, i ddelio 'efo trauma tebyg."
'O'n i'n gallu gweld Ffrainc'
Er i Coleman geisio gosod ei stamp ei hun ar y tîm mewn ymgais i achub ei swydd, cymysglyd oedd y canlyniadau i ddechrau.
Ond ar ôl curo'r Alban ddwywaith, daeth yr ymgyrch i ben gyda buddugoliaeth yn erbyn Macedonia a gêm gyfartal yn erbyn Gwlad Belg, oedd ar eu ffordd i Gwpan y Byd.
"Roedd y canlyniad yna'n bwysig jyst i'r squad players mwy na dim sylweddoli, oce, 'dan ni'm mor ddrwg ag mae pobl yn feddwl os 'dan ni'n gallu dod yma a gwneud hyn," meddai Jones, oedd yn rhan o garfan amhrofiadol y noson honno.
"Naeth hynna helpu adeiladu'r momentwm yn erbyn Gwlad Belg, mynd yna tro nesa' [yng ngemau rhagbrofol Euro 2016], gem ddi-sgôr, ac wedyn eu curo nhw."
Er iddo ymddeol o chwarae cyn dechrau ymgyrch Euro 2016 wedi sawl anaf i'w ben-glin, roedd y chwaraewr canol cae yn ffyddiog ei fod wedi gweld digon gan y tîm i godi hyder.
"Dwi ddim jyst yn deud hyn efo hindsight a stori dda i dd'eud," meddai'r gŵr o Fangor sydd bellach yn ddarlledwr.
"Pan nes i ymddeol, roedd y galwadau ffôn o'n i'n neud i bobl teledu, pobl radio [i weld] oes 'na waith allan yna, oes na le i fi, dyma 'swn i'n licio neud - o'n i'n gweld Ffrainc.
"Naeth hynna helpu fi wedyn neud y cam, ddim i fod yn Ffrainc fel chwaraewr, ond yn meddwl allai fod yna un ffordd neu'i gilydd os fysa S4C neu Radio Cymru'n cael y gemau."
Talodd ei ffydd ar ei ganfed, wrth i genhedlaeth aur Cymru a chwaraewyr fel Gareth Bale, Aaron Ramsey, Joe Allen ac Ashley Williams ddod â 58 mlynedd o aros am dwrnament rhyngwladol i ben.
Wrth i'r adfywiad barhau fe ddringodd Cymru i'r wythfed safle ar restr FIFA - yr uchaf maen nhw erioed wedi bod.
Hyd yn oed fel cefnogwr oedd wedi arfer gweld methiant ar ôl methiant, roedd Elin Thomas yn hyderus gyda thair gêm i fynd y tro hwn fod rhywbeth wedi newid.
"Dwi'n cofio bod yn y gêm allan yn Cyprus, lle enillon ni, a dwi'n cofio cerdded allan a deud, 'dan ni 'di 'neud hi!"
'Teimlad reit genuine'
Fis yn ddiweddarach roedd eu lle yn Euro 2016 wedi'i selio'n swyddogol, gyda'r tîm wedyn yn mynd ymlaen i synnu pawb wrth gyrraedd rownd gynderfynol y gystadleuaeth.
Er iddyn nhw fynd drwy'r ymgyrch nesaf ar gyfer Cwpan y Byd 2018 heb golli gêm tan yr un olaf, fe gollon nhw allan ar le yn y gemau ail gyfle o drwch blewyn, ac fe adawodd Coleman gyda Ryan Giggs yn cymryd ei le.
Buan y profwyd llwyddiant eto, gyda Giggs yn arwain y tîm i Euro 2020 cyn i Rob Page gymryd yr awenau dros dro ar gyfer dyrchafiad yng Nghynghrair y Cenhedloedd a chyrraedd rownd 16 olaf yr Ewros gohiriedig.
Ac mae Owain Tudur Jones yn wfftio'r awgrym mai canlyniad un 'genhedlaeth aur' lwcus yw hyn fydd yn pylu'n raddol dros amser.
"Beth dwi 'di weld wedyn ydi bod y crop nesa', mae genna nhw dal y bois hŷn dal yn y garfan i helpu nhw, ond dwi'n meddwl bod [ganddyn nhw] rhyw arrogance mewn ffordd dda, maen nhw'n coelio yn eu hunain gymaint," meddai.
"Mae 'na bach o strut amdanyn nhw, mae [llwyddiant] 'di digwydd yn syth, felly dy'n nhw'm 'di gorfod mynd drwy'r broses o fethu, methu, methu.
"Maen nhw 'di jyst dod i fewn, ac maen nhw isio blas ar beth 'naethon nhw weld fel cefnogwyr neu fel bois ifanc yn 2016. Mae'n amser rŵan iddyn nhw gamu fyny hefyd."
Pan ofynnwyd a ydy cynrychioli Cymru'n golygu mwy i'r chwaraewyr presennol na'r rheiny oedd o gwmpas ddegawd yn ôl, dydy pennaeth cyfathrebu CBDC ddim yn teimlo'r angen i osgoi'r cwestiwn yn ddiplomyddol.
"Ydy," meddai Ian Gwyn Hughes.
"Ti 'mond yn gorfod edrych ar rywun fel agwedd Gareth Bale at y peth. Os 'na dyna'i agwedd o, mae agwedd pawb arall yn mynd i fod yr un peth."
Mae'r angerdd hwnnw i chwarae dros y tîm wedi dod â'r chwaraewyr yn agosach at y cefnogwyr, ac mae'r ddwy ochr wedi teimlo rhwystredigaeth o ganlyniad i feysydd gwag Covid.
"Wel, 'dan ni'n licio meddwl bod ni'n 'neud gwahaniaeth!" meddai Elin Thomas gyda gwên.
"Ond dwi'n meddwl bod na deimlad bod hynna'n reit genuine rhyngdda ni a'r tîm."
Gyda thri Chwpan y Byd yn y deng mlynedd nesaf, mae prif flaenoriaeth pawb ar gyfer y ddegawd nesaf yn glir - cyrraedd y twrnament mwyaf ohonyn nhw i gyd.
Ond beth bynnag fydd ffawd tîm Cymru dros y blynyddoedd nesaf, mae Elin Thomas yn obeithiol "fyddwn ni fyth lawr i lle bynnag oeddan ni yn y rankings eto".
O ystyried y llwyddiant diweddar felly, oni fyddai hi'n well peidio trafferthu edrych yn ôl ar gyfnod o hanes y tîm y byddai llawer yn hoffi anghofio?
"Mae sbïo 'nôl ar gyfnodau fel 'na yn bwysig," meddai Owain Tudur Jones.
"Achos mae pethau di bod yn grêt dros y blynyddoedd diwetha', ond 'sa ni'm 'di cyrraedd y pwynt yma heb fynd drwy beth 'naeth y tîm fynd drwyddo fo 10 mlynedd [yn ôl]."