Argyfwng petrol: 'Dwi erioed 'di cau'r siop o'r blaen'
Mae rheolwr gorsaf betrol wedi disgrifio sut y bu iddi gau'r siop am y tro cyntaf mewn 20 mlynedd ddydd Sul oherwydd y galw am danwydd gan yrwyr.
Dywedodd Dilys Hughes o orsaf ym Mallwyd ger Dolgellau ei bod wedi derbyn galwad gan rywun o Leeds fore Llun yn holi os oedd tanwydd ar werth.
Mae gorsafoedd petrol yn parhau i weld ciwiau hir ar ôl "anhrefn" dros y penwythnos.
Ond nawr mae gan tua 50% o orsafoedd yn y DU bympiau gwag wrth i bobl "brynu mewn panig", yn ôl y Petrol Retailers Association.