Argyfwng petrol: Rhybudd am effaith ar staff gofal

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Argyfwng petrol: "Dwi erioed 'di cau'r siop o'r blaen"

Gallai'r prinder tanwydd effeithio ar allu staff meddygol i wneud eu gwaith, meddai'r Coleg Nyrsio Brenhinol.

Mae gorsafoedd petrol yn parhau i weld ciwiau hir ar ôl dioddef "anhrefn" dros y penwythnos.

Fe wnaeth gyrwyr ddechrau brysio i'r pympiau fore Gwener yn dilyn adroddiadau o brinder petrol mewn rhai gorsafoedd yn y DU - er i sawl archfarchnad ddweud nad oedd problemau cyflenwad yng Nghymru.

Ond nawr mae gan tua 50% o orsafoedd yn y DU bympiau gwag wrth i bobl "brynu mewn panig", yn ôl y Petrol Retailers Association.

Mae Cymdeithas Feddygol y BMA hefyd yn pryderu y gallai'r trafferthion tanwydd gael effaith ar y gwasanaeth iechyd petai staff yn methu cael cyflenwadau.

Disgrifiad o’r llun,

Galwodd Diane Powles ar i weithwyr iechyd gael blaenoriaeth am danwydd

Mae rhai nyrsys wedi wynebu "anawsterau" ac ymatebion ymosodol wrth ddweud eu bod yn weithwyr allweddol sydd angen tanwydd, meddai Diane Powles o'r Coleg Nyrsio Brenhinol.

"Os ydy hyn yn parhau dros y dyddiau nesaf, bydd yn dechrau effeithio ar ofal cleifion - bydd cyrraedd y gwaith yn fwy heriol i nyrsys cymunedol, bydwragedd ac ar gyfer ymweliadau cartref", meddai.

"Yn ystod y pandemig, roedd gweithwyr allweddol yn cael blaenoriaeth wrth siopa ac yn ddelfrydol dylen nhw gael hyn mewn gorsafoedd petrol er mwyn cael blaenoriaeth."

Gofynnodd i'r cyhoedd, "a oes wir angen gwneud y siwrne, achos mi allai atal rhywun rhag cael nyrs?"

Dywedodd Andrew Johnson, sy'n rhedeg gorsaf betrol yn Llanwddyn ym Mhowys, bod y penwythnos wedi bod yn "lot fwy prysur".

"Ni'n eitha gwledig ond roeddwn ni dal yn derbyn galwadau o bobl dros 24 milltir i ffwrdd, yn gofyn a oedd tanwydd," meddai.

Mae Mr Johnson nawr ond yn caniatáu i gwsmeriaid brynu gwerth £10 o danwydd ar y tro.

"Dwi'n credu bod lot o broblemau o gwmpas pobl yn prynu mewn panig, mae'n anghredadwy bod ni'n derbyn galwadau o mor bell i ffwrdd," dywedodd.

"Mae 'na danwydd, mae jyst problemau yn ei gludo i'r gorsafoedd ac y mwya' mae pobl yn prynu y mwya' sydd rhaid cludo."

Cleifion yn poeni am allu cael tacsi

Mae Brian O'Shaughnessy, 70, wedi bod yn gyrru tacsi yn ardal Caernarfon am 30 mlynedd.

Dywedodd ei fod wedi llwyddo i brynu tanwydd dros y penwythnos ar ôl mynd i'r orsaf betrol yn oriau man y bore.

Ond mae'n poeni gall y prinder petrol effeithio ar ei waith dros y diwrnodau nesaf.

"Dwi'n gwirfoddoli'n mynd a chleifion i ysbytai Lerpwl a Manceinion," meddai, "ac mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n mynd nawr yn bobl hefo canser, so mae'r rheiny'n dechrau poeni am allu cael car.

"Os 'di hwn yn mynd 'mlaen am ddeg diwrnod neu bythefnos mae'n siŵr bydd o'n broblem."

Ffynhonnell y llun, NAT Group

Mae'r problemau cyflenwi hefyd wedi effeithio ar sawl sector sy'n dibynnu ar danwydd i weithredu.

Dywedodd ffermwr a chadeirydd bwrdd llaeth NFU Cymru, Abi Reader, bod ganddi "bryderon" dros staff yn methu dod mewn i'r gwaith.

"Mae'n fis pwysig ar gyfer plannu, ac mae lot o'n contractwyr yn dibynnu ar danciau llawn tanwydd i fynd allan i'r caeau i blannu cnydau blwyddyn nesaf, felly dwi bach yn nerfus," meddai.

"I ffermwyr sy'n byw yn bell i ffwrdd o ardaloedd trefol a heb orsafoedd petrol cyfagos, mae pethau yn dechrau mynd ychydig yn dynn," ychwanegodd.

Yn ôl y Petrol Retailers Association, roedd cynnydd mewn gwerthiant petrol o rhwng 350% a 500% ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn.

Dywedodd rheolwr aelodau'r corff, Steve Coombe: "Mae hyn i gyd i wneud â phrynu mewn panig, ac yn amlwg wedi rhoi straen ar y sector."

"Bydd unrhyw beth i leddfu'r broblem yn gwneud hi'n well i bawb."

"Ni'n gobeithio bod y prynu mewn panig gwaethaf dros y penwythnos, ac yn bersonol dwi'n meddwl gallwn weld gwelliant yn hwyrach yn yr wythnos," ychwanegodd.

Mae'r problemau gyda chyflenwadau petrol yn gysylltiedig â phrinder gyrwyr lori, gyda'r DU yn brin o tua 100,000 o yrwyr yn ôl rhai amcanion.

Mae'r diffyg gyrwyr wedi'i waethygu gan effeithiau'r pandemig a Brexit.

Pynciau cysylltiedig