Bydd tywydd eithafol yn digwydd 'yn fwy ac yn fwy aml'
Rhaid gweithredu'n gynt ar newid hinsawdd, yn ôl gwasanaethau brys, gan rybuddio eu bod ar y rheng flaen wrth ddelio â'r effeithiau.
Yn ôl Undeb y Frigâd Dân mae'u haelodau wedi gweld cynnydd mewn achosion heriol o lifogydd a thanau gwyllt yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd Alun Thomas nad oedd erioed wedi gweld lefelau'r dŵr mor uchel â phan darodd llifogydd yn Nhrefynwy llynedd.