Diffoddwyr tân Cymru'n mynnu gweithredu ar newid hinsawdd
- Cyhoeddwyd
Mae gwasanaethau tân Cymru wedi galw am weithredu yn erbyn newid hinsawdd, gan rybuddio eu bod ar y rheng flaen wrth ddelio â'r effeithiau.
Yn ôl Undeb y Frigâd Dân mae'u haelodau wedi gweld cynnydd mewn achosion heriol o lifogydd a thanau gwyllt yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Rhybuddiodd un arbenigwr y gallai Cymru fod yn profi'r math o danau gwair dinistriol welwyd yng Ngwlad Groeg yn ddiweddar ymhen rhai degawdau.
Daw'r alwad union fis cyn i arweinwyr byd gwrdd yn Glasgow ar gyfer cynhadledd COP26 ar atal cynhesu byd-eang.
'Fel gwylio ffilm Hollywood'
Yn ddyn tân ers bron i 40 mlynedd, mae Craig Hope yn dweud nad yw'n cofio faint yn union o danau gwair y mae wedi'u diffodd.
Bydd yn cael ei alw i ddelio â "channoedd ar gannoedd" bob blwyddyn ar hyd a lled cymoedd y de.
Ond yn ddiweddar, mae'n dweud iddo sylwi eu bod nhw'n newid - yn llosgi'n hwyrach yn y flwyddyn, yn tyfu'n fwy o ran maint a dinistr.
Yn y cyfamser, mae ei gydweithwyr yn gorfod achub pobl o achosion o lifogydd "anhygoel" a thirlithriadau.
Arwyddion newid hinsawdd o flaen eu llygaid, meddai - "mae fel gwylio ffilm Hollywood".
Fel arbenigwr ar danau gwair, fe deithiodd Mr Hope i Wlad Groeg ym mis Awst gyda thri o'i gydweithwyr o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru i helpu gyda'r tanau dinistriol yno.
Mae'n rhagweld y gallai Cymru ddioddef golygfeydd tebyg cyn hir oni bai bod 'na ymdrech i addasu i heriau tywydd cynhesach.
Mae'r gwledydd yn Ewrop sy'n profi problemau dybryd ar hyn o bryd yn rhai "oedd yn cael tanau fel y'n ni'n cael 30 mlynedd yn ôl," eglurodd.
"Ry'n ni mewn sefyllfa nawr lle mae'n rhaid i ni weithredu - y degawdau nesa' fydd yn penderfynu os allwn ni lwyddo."
Mae'n broblem gymhleth sy'n golygu gweithio ar y cyd â ffermwyr, tirfeddianwyr, cwmnïau coedwigaeth, amgylcheddwyr a'r llywodraeth i reoli tirweddau fel eu bod nhw'n llai bregus i danau sy'n llosgi allan o reolaeth.
Cyfeiriodd at brosiect yn Rhondda Cynon Taf - o'r enw Healthy Hillsides, dolen allanol - fel esiampl dda o'r hyn ddylai fod yn digwydd ar draws y wlad.
"Y broblem sy' gyda ni yng Nghymru yw bod 'da ni lot o dywydd llwm," felly efallai nad yw tanau ar flaen meddwl pobl.
Ond pan mae'n wlyb "mae'r holl lystyfiant yn tyfu lan ac yn mynd yn fwy ac yna ry'n ni'n ca'l adegau o dywydd twym iawn, sych a gwyntog".
Mae'r gwasanaeth tân y mae e'n gweithio iddo bellach wedi "esblygu'n llwyr" sut y maen nhw'n delio â thanau gwair, gan gynnwys cyflwyno gwisg newydd sy'n fwy addas ar gyfer yr amodau.
Ond ydy e'n becso am y dyfodol? "Bendant," atebodd - oherwydd er ei bod hi'n beth prin iawn ar hyn o bryd i danau gwyllt y DU effeithio eiddo a bywydau pobl, fe allai hynny newid.
"Ro'n ni ym Mhortiwgal yn ddiweddar... [lle] collon nhw 77 o bobl mewn tân gwair, a dim ond fis diwethaf bu farw diffoddwr tân yn Sbaen. Felly mae hyn yn beth real iawn," meddai.
"Wrth i'n tanau ni dyfu'n fwy ac wrth i'r hinsawdd newid mae'n rhaid i ni baratoi a sicrhau ein bod ni'n ddiogel."
'Noson wirioneddol echrydus'
Mae mynydd Cilfai, uwchben Abertawe yn un ardal sy'n peri pryder, ar ôl dioddef nifer o danau dinistriol yn ddiweddar.
Yn 2019 bu'n rhaid tywys pobl o'u cartrefi islaw wrth i'r gwasanaeth tân geisio diffodd y fflamau.
Roedd hi'n noson "wirioneddol echrydus" yn ôl Jan Murphy, sy'n 72 oed.
"Y cyfan oedden ni'n gallu'i weld oedd y mwg a goleuni oren. Ro'n ni mas yn y stryd tan dri y bore, a phum injan dân yma tan y diwrnod wedyn."
Daeth y fflamau i ymyl ei gardd, ac mae bellach wedi torri rhes o goed oedd yn amgylchynu ei chartref i geisio atal problemau pellach yn y dyfodol.
Dweud ei fod e'n cydymdeimlo â'r diffoddwyr tân wnaeth ei chymydog Stephen Passmore.
"Roedd y bryn i gyd ar dân - ble y'ch chi fod i ddechrau mewn sefyllfa fel 'na?"
Mae diffoddwyr tân dan bwysau o bob cyfeiriad o ganlyniad i newid hinsawdd, wrth iddyn nhw gael eu galw hefyd i ymateb i achosion o lifogydd difrifol.
Disgrifiodd Mr Hope y dilyw ym mis Chwefror 2020, pan darodd cyfres o stormydd, fel profiad "anhygoel".
"Roedd 'na ddigwyddiadau oedd yn anodd eu hamgyffred yng nghymoedd y de - shipping containers yn cael eu golchi lawr afonydd - ac yna ry'ch chi'n cymharu hynny gyda'r golygfeydd welon ni yn Yr Almaen yr haf hwn."
A'r sgil-effeithiau oll yn cysylltu, eglurodd, gyda thanau gwair yn llosgi'r llystyfiant sydd ei angen i amsugno dŵr glaw a chadw tir yn sefydlog - gan arwain at achosion gwaeth o lifogydd a thirlithriadau.
'Ar y rheng flaen'
Mae sicrhau mwy o ffocws ar addasu i effeithiau newid hinsawdd, tra'n sicrhau gweithredu pellach i dorri allyriadau nwyon tŷ gwydr, yn rhai o brif amcanion cynhadledd COP26 ym mis Tachwedd.
Wrth ymbil ar y sawl fydd yn mynychu i fwrw ati, dywedodd Cerith Griffiths - sy'n arwain undeb y frigâd dân yng Nghymru - ei bod hi'n "hen bryd i wleidyddion cymryd newid hinsawdd o ddifri".
"Os na wnawn ni ddelio â'r argyfwng hwn, mae'r argyfwng yn mynd i ddelio gyda ni."
Roedd gwasanaethau tân yn addasu, meddai, ond fe allen nhw fod yn gwneud mwy "os yw'r adnoddau yno".
"Ma' diffoddwyr tân ar y rheng flaen - ry'n ni'n delio â thanau mwy, llifogydd sy'n digwydd dros ardaloedd mwy eang. Mae hyn yn digwydd o flaen ein llygaid erbyn hyn."
Yn ôl y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James mae'r llywodraeth wedi bod yn ymgymryd â "rhaglen enfawr gydol y flwyddyn i ddysgu gwersi'r stormydd amrywiol gafon ni'r llynedd".
Dywedodd: "Mae mor ofnadw i ddiodde' llifogydd a dwi wedi cwrdd â lot o bobl sydd wedi profi trawma o ganlyniad.
"Felly ry'n ni wedi gweithio yn galed iawn yn mapio ble mae'n hamddiffynfeydd ni, a beth sydd angen digwydd i'w gwella nhw wrth i ni baratoi at y gaeaf hwn."
O ran tanau gwair, dywedodd bod y llywodraeth yn gweithio â cholegau addysg bellach, pobl ifanc, y diwydiant amaeth ac eraill i godi ymwybyddiaeth o'r math o ymddygiad sy'n gallu arwain at danau.
"Gallwn ni ddim atal pobl achos o dywydd eithafol, ond fe allwn ni drio rhoi'r amddiffynfeydd gorau yn eu lle fel ein bod ni mor barod â fedrwn ni fod," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Medi 2021
- Cyhoeddwyd30 Awst 2021
- Cyhoeddwyd28 Medi 2021