Covid-19: Llinell amser ymateb Llywodraeth Cymru
Mae yna alwadau newydd am ymchwiliad i benderfyniadau Llywodraeth Cymru ar ddechrau'r pandemig ar ôl i adroddiad gan Aelodau Seneddol yn San Steffan feirniadu ymateb Llywodraeth y DU.
Er mai edrych ar y sefyllfa yn Lloegr yn bennaf y mae'r adroddiad, mae'n dweud fod sawl elfen o'r ymateb cynnar wedi bod yn drawsffiniol.
Cafod ymgais cychwynnol gwyddonwyr a gwleidyddion i reoli'r feirws ei feirniadu fel un o'r methiannau mwyaf yn hanes iechyd cyhoeddus ym Mhrydain.
Dywedodd Aelodau Seneddol o Blaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig fod casgliadau'r adroddiad yn pwysleisio'r angen am ymchwiliad penodol i ymateb Llywodraeth Cymru.
Bu'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn ymddiheuro am gamgymeriadau'r llywodraeth ar ddechrau'r pandemig.