Eluned Morgan: Sori am gamgymeriadau ar ddechrau'r pandemig

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Covid-19: Llinell amser ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi ymddiheuro am gamgymeriadau Llywodraeth Cymru yn eu hymateb cychwynnol i Covid-19.

Roedd Eluned Morgan yn ymateb i gasgliadau'r adroddiad mawr cyntaf gan Aelodau Seneddol trawsbleidiol yn San Steffan i'r ymateb yn y DU ar ddechrau'r pandemig.

Dywedodd yr ASau bod ymgais cychwynnol gwleidyddion a gwyddonwyr i reoli'r feirws ac oedi cyn cyflwyno cyfnod clo wedi costio miloedd o fywydau, a bod hynny ymhlith y methiannau mwyaf yn hanes iechyd cyhoeddus ym Mhrydain.

Ar yr ochr gadarnhaol, maen nhw'n dweud bod y gwaith o greu brechlynnau a'r rhaglen frechu ganlynol "yn un o'r cynlluniau mwyaf llwyddiannus yn hanes y DU".

Er taw edrych ar y sefyllfa yn Lloegr yn bennaf y mae'r adroddiad, mae'n dweud fod sawl elfen o'r ymateb cynnar wedi bod yn drawsffiniol.

Dywedodd Ms Morgan: "Dydw i erioed wedi deall yn iawn pam bod gwleidyddion yn cael gymaint o drafferth ymddiheuro. Wrth gwrs rydw i'n barod i ymddiheuro i bawb sydd wedi dioddef yn ystod y pandemig."

"Roedd hwn yn salwch newydd nad oedden ni wedi ei weld o'r blaen. Doedd dim un ohonon ni'n gwybod sut effaith roedd am ei gael, sut y byddai'n lledu.

"Doedd dim syniad gan yr un ohonon ni fod posib i'w ledu heb arddangos unrhyw symptomau. Felly wrth gwrs roedd gyda ni lawer iawn i'w ddysgu ac rwy'n falch o ddweud ein bod wedi dysgu yn ystod y pandemig.

"Ac wrth gwrs fe wnaethon ni gamgymeriadau ar ddechrau'r broses oherwydd diffyg gwybodaeth a data - pethau yr ydym bellach wedi eu dysgu.

"Rwy'n meddwl bod gennym ddyletswydd a chyfrifoldeb i ymddiheuro i bobl ble rydym wedi gwneud camgymeriadau."

Disgrifiad o’r llun,

Arwydd ar safle Amgueddfa Lechi Llanberis adeg y cyfnod clo cyntaf ym Mawrth 2020

Mae'r ffaith mai ymateb Llywodraeth San Steffan yw canolbwynt yr adroddiad yn tanlinellu'r angen am ymchwiliad penodol yng Nghymru, medd y gwrthbleidiau yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George bod y pandemig "yn argyfwng digynsail".

Ychwanegodd bod adroddiadau'r ASau'n dangos bod y bobl a wnaeth benderfyniadau o fewn y llywodraeth "yn dilyn y wyddoniaeth a thystiolaeth yr arbenigwyr".

'Sobreiddiol, damniol, anfaddeuol'

Mae angen dysgu gwersi, meddai "o anawsterau a heriau'r 18 mis diwethaf" ond mae angen i hynny ddigwydd yn achos pob un o lywodraethau'r DU "oedd yn gyfrifol am eu penderfyniadau eu hunain, gan gynnwys Llafur ym Mae Caerdydd".

Disgrifiad o’r llun,

Apêl i bobl ddilyn y rheolau Covid-19 ar arwydd yng Nghlwt-y-bont, ger Llanberis ar ddechrau'r pandemig

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth bod Llywodraeth y DU wedi arwain yr ymateb cychwynnol a bod "Cymru, yn gywir, wedi gweithredu'n annibynnol mewn sawl man".

Mae gofyn felly, meddai, i weinyddiaeth Mark Drakeford, "gymryd y cyfrifoldeb am weithredoedd da a drwg - ac yn dweud na ddylid "osgoi craffu manwl".

"Sobreiddiol, damniol, anfaddeuol" yw disgrifiad arweinydd Plaid Cymru, Adam Price o gynnwys yr adroddiad.

'Neb yn dod allan ohoni'n dda'

Dywedodd bod Llywodraeth y DU "yn rhy araf yn ymateb, yn rhy hwyr i gloi i lawr, ac yn rhy drahaus i ddysgu o wledydd sydd â mwy o arbenigedd" a bod "rhaid i'r adroddiad hwn roi diwedd ar y gred gan wleidyddion San Steffan eu bod rywsut yn unigryw yn y byd".

Mewn datganiad mae Llywodraeth Cymru'n tanlinellu galwad Mr Drakeford bod angen i'r ymchwiliad i'r ymateb ar draws y DU "gwmpasu'n llawn yr holl benderfyniadau a wnaed yng Nghymru".

Pwysleisiodd bod rhai camau a phenderfyniadau wedi eu cymryd gan bedair gwlad y DU ar y cyd, ond eu bod wedi dilyn cyngor arbenigwyr meddygol a gwyddonol "ac wedi dilyn trywydd mwy pwyllog".

Disgrifiad o’r llun,

Dr Dylan Jones

Wrth ymateb i gasgliadau'r ASau ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Dr Dylan Jones, darlithydd yn Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd Prifysgol Bangor bod "neb i weld yn dod allan yn dda iawn o'r adroddiad yma - o'r gwyddonwyr yn rhoi cyngor i San Steffan ac yr Aelodau Seneddol eu hunain".

Dywedodd bod hi'n "amlwg i ni rŵan, o edrych yn ôl, bod y penderfyniad i oedi [cyn cyflwyno'r cyfnod clo cyntaf] wedi bod yn hynod o ddifrifol i iechyd nifer o bobol.

Awgrymodd y byddai Llywodraeth y DU wedi wynebu cryn anniddigrwydd gan bobl o orfod dilyn rheolau caeth pe tasai'r feirws "ddim wedi bod mor sylweddol â be' oedd o".

Ond mae'r adroddiad, meddai, yn amlygu y "dylai'r llywodraeth [fod] wedi gweld pa mor ddrwg oedd y feirws yn Yr Eidal... a dylid fod wedi ymateb yn gynt".