Cyneclampsia: 'Annheg' nad oedd prawf ar gael yng Nghymru
Ym mis Chwefror eleni fe gollodd Paige Thomas ei babi, Amelia, yn dilyn diagnosis o gyflwr gwael o gyneclampsia.
Mae prawf ar gyfer adnabod cyneclampsia yn cael ei gynnig i bob dynes beichiog yn Lloegr, ond tan nawr dyw'r un peth ddim yn wir am Gymru.
Yn ôl Paige, ac eraill sydd wedi bod yn ymgyrchu ar y mater, byddai cynnig y prawf yn rhoi sicrwydd neu dawelwch meddwl i fenywod beichiog naill ffordd ynglŷn ag a ddylen nhw baratoi ar gyfer y cyflwr, sy'n gallu effeithio ar y fam neu'r babi.
Mae Llywodraeth Cymru nawr wedi dweud eu bod nhw wedi dechrau cyflwyno'r prawf.