Cynnig prawf cyneclampsia i fenywod beichiog yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Paige Thomas: "Annheg" nad oedd y prawf ar gael yng Nghymru

Fe fydd menywod sy'n disgwyl babi yng Nghymru nawr yn cael cynnig prawf gwaed a all achub bywydau babanod yn y groth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth Newyddion S4C bod y broses o gyflwyno'r prawf ar gyfer adnabod salwch cyflwr cyneclampsia wedi dechrau.

O dan y cynllun bydd modd i fenywod sy'n dangos symptomau o'r cyflwr dderbyn y prawf gwaed.

Mae'r prawf wedi bod ar gael yn Lloegr ers mis Awst.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae yna bryderon fod rhai menywod beichiog a'u babanod dal mewn peryg hyd yn oed gyda'r prawf, gan fod y cyflwr cyneclampsia yn un "distaw" gyda sawl menyw ddim yn dangos unrhyw symptomau.

Mae cyneclampsia yn gyflwr sy'n effeithio ar fenywod beichiog ar ôl 20 wythnos. Os nag oes diagnosis mi all y cyflwr beryglu bywyd y fam a'r babi.

Symptomau arferol cyneclampsia yw pwysau gwaed uchel a lefel uchel o brotein yn yr wrin.

Ar gyfartaledd, yn ôl ffigyrau gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru mae tua 700 o fenywod yn cael diagnosis o'r cyflwr bob blwyddyn yng Nghymru ond yn ôl arbenigwyr mae'r ffigwr go iawn yn debygol o fod yn llawer uwch na hynny gan fod rhai menywod ddim yn gwybod bod ganddyn nhw'r cyflwr nes iddyn nhw roi genedigaeth.

'Ofnadwy'

Ym mis Ionawr eleni, fe ddaeth Paige Thomas, 23, o Goed-duon yng Nghaerffili, ddod i wybod ei bod hi'n disgwyl pan oedd hi bum mis yn feichiog.

"Roedd e'n hollol whirlwind i fynd o fod yn ferch 22 oed i ddisgwyl eich babi cyntaf a gorfod paratoi i fod yn fam."

Ym mis Chwefror, fe wnaeth Paige sylweddoli fod ei babi Amelia, yn symud yn llai na'r disgwyl.

Ffynhonnell y llun, Science Photo Library
Disgrifiad o’r llun,

Un o symptomau cyneclampsia yw pwysau gwaed uchel

Cafodd ei chludo i ysbyty'r Grange yng Nghwmbrân, lle cafodd ddiagnosis o gyflwr gwael o gyneclampsia.

"O fewn dwy awr o fod yn yr ysbyty, fe gefais i sgan arall a oedd yn dangos nad oedd Amelia gyda churiad calon."

Bu farw merch Paige yn y groth pan yn 26 wythnos oed.

"Fe wnaeth e gymryd pum diwrnod i fi roi genedigaeth oherwydd yr holl feddyginiaeth.

"Roedd y fersiwn o pre-eclampsia gefais i yn fersiwn distaw iawn. Os na fyddai Amelia wedi stopio symud, fydden i ddim wedi sylweddoli bod gyda fi pre-eclampsia.

"Doeddwn i ddim clywed am pre-eclampsia o'r blaen."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r prawf gwaed PFGL yn medru canfod pre-eclampsia yn gynnar

"Mae'r meddygon wedi dweud wrthai pan fyddai'n dod yn feichiog tro nesaf y bydd siawns uchel y bydd gen i pre-eclampsia eto," meddai.

'Popeth yn chwyddo'

I Nona Thomas, 41 oed, roedd darganfod bod ganddi hi'r cyflwr cyneclampsia yn brofiad dychrynllyd.

"Cefais i ddiagnosis pre-eclampsia pan yn 35 wythnos yn feichiog.

"Roedd pwysau gwaed fi'n codi yn ystod yr wythnosau cynt yn eithaf cloi. Roedd rhaid i fi mynd mewn i'r ysbyty sawl gwaith cyn cael y diagnosis.

"Yn yr amser yna o ni'n teimlo wedi blino, yn fwy na beth o ni'n barod, roeddwn ni'n teimlo'n wan iawn. O ni'n ffindio fe'n galed i fynd am wac, ac o ni'n actif iawn cyn hyn.

"O ni'n gweld golau yn y llygaid, fel visual disturbances. A wedyn o ni'n chwyddo, oedd popeth yn chwyddo, traed, coesau, dwylo a llygaid. Roedd e'n rhyfedd iawn really," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nona Thomas bod cael cyneclampsia wedi bod yn anodd iawn

Bu'n rhaid i Nona fynd ar frys i'r ysbyty wrth i feddygon ddechrau pryderu am y cynnydd yn ei phwysau gwaed.

"Gaethon ni'r babi ar ôl 36 wythnos. So oedd y babi wedi dod yn gynnar. Roedd e'n bach o sioc. O ni yn labour wedyn am dri dydd.

"Oedd e wedi cymryd i fi dros chwe mis i deimlo'n normal ar ôl cael y pre-eclampsia," ychwanegodd.

Croesawu'r prawf newydd

Mae Dr Angharad Care yn obstetrydd. Mae'n croesawu bod y prawf newydd yn cael ei gyflwyno yng Nghymru, ond yn dal i bryderu bod rhai ddim yn cael diagnosis.

"Mae rhai menywod dal mewn peryg achos mae symptomau pre-eclampsia ddim mor amlwg â hynny. Mae rhai o'r symptomau sy'n gysylltiedig â pre-eclampsia yn gyffredin yn ystod beichiogrwydd beth bynnag," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Angharad Care bod canfod pre-eclampsia yn gynnar yn hollbwysig

"Felly weithiau mae'n anodd dweud y gwahaniaeth rhwng beth sy'n arferol neu sy'n anarferol ac yn beryglus.

"Fel mae pre-eclampsia yn datblygu gallwch chi gael pen tost difrifol, problemau golwg - fel gweld goleuni sy'n fflachio, chwydu neu deimlo'n sâl, chwyddo yn eich traed a'r wyneb a'r dwylo a phoen yn eich stumog," ychwanegodd.

Mewn datganiad, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru "Nid yw canllawiau Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU yn argymell sgrinio rheolaidd ar gyfer cyn-eclampsia.

"Mae'r broses o gyflwyno prawf wedi dechrau yng Nghymru er mwyn sicrhau diagnosis buan i'r rhai sy'n dangos symptomau o'r cyflwr."

Pynciau cysylltiedig