'Sefyllfa'r Gymraeg wedi gwella - ond dim ond tipyn'

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn dweud bod angen "chwyldro" yn y maes addysg os am gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Wrth gyhoeddi ei adroddiad pum mlynedd ar sefyllfa'r Gymraeg yng Nghymru rhwng dau gyfrifiad, mae Aled Roberts yn galw am wneud llawer mwy i ddenu siaradwyr Cymraeg i'r proffesiwn.

Mae hefyd yn dweud bod angen datblygu sgiliau Cymraeg athrawon cyfrwng y Saesneg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod recriwtio athrawon Cymraeg yn flaenoriaeth, a'u bod yn ceisio denu mwy o athrawon Cymraeg trwy ddarparu cymhelliant ariannol a chynnal ymgyrchoedd marchnata.

Cafodd Aled Roberts ei holi gan Kate Crockett ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.