'Angen chwyldroi addysg i sicrhau dyfodol y Gymraeg'
- Cyhoeddwyd
Ni fydd modd cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg heb "chwyldro yn y byd addysg", yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.
Mewn adroddiad sy'n edrych ar sefyllfa'r Gymraeg rhwng dau gyfrifiad, dywed Aled Roberts nad oes digon o athrawon ar hyn o bryd.
"Mae angen gwneud llawer mwy i ddenu siaradwyr Cymraeg i'r proffesiwn, a datblygu sgiliau iaith Gymraeg yr athrawon hynny sy'n addysgu drwy gyfrwng y Saesneg," meddai.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn gyson fod recriwtio athrawon Cymraeg yn flaenoriaeth iddynt a'u bod yn ceisio denu mwy o athrawon Cymraeg trwy ddarparu cymhelliant ariannol a chynnal ymgyrchoedd marchnata.
Beth yw'r targedau?
Dywed bod cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn dibynnu ar allu'r gyfundrefn addysg i greu siaradwyr newydd.
Ar hyn o bryd, 22% o blant oed cynradd sy'n mynychu addysg cyfrwng Cymraeg. Y nod yw cynyddu'r ganran hon i 40% erbyn 2050.
Mae targed hefyd i sicrhau bod 50% o'r disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn dod yn siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Yn yr adroddiad, dywed y Comisiynydd ei fod yn siomedig nad yw'r Gymraeg wedi'i hintegreiddio'n llwyr yn y cwricwlwm newydd.
"Ni fu'r angen i integreiddio agenda Cymraeg 2050 i ddatblygiad polisi a deddfwriaeth addysg erioed yn amlycach nag wrth i'r llywodraeth ddatblygu cwricwlwm newydd i Gymru," meddai.
"Yn anffodus ni fachwyd ar y cyfle hwnnw.
"Ac ystyried mor ganolog yw addysg i strategaeth Cymraeg 2050, mae'n siomedig a dweud y lleiaf na chafodd y weledigaeth ynghylch y Gymraeg ei hintegreiddio'n llwyr i broses datblygu'r polisi mwyaf arwyddocaol ym maes addysg statudol ers datganoli."
'Cynlluniau uchelgeisiol'
Ychwanegodd Mr Roberts: "Y cwricwlwm cenedlaethol ddylai osod disgwyliadau clir a phendant i weddill y gyfundrefn addysg i ddilyn ac ymaddasu yn eu sgil.
"Oni fydd y cwricwlwm yn arwain, y tebyg yw y bydd diffygion o ran sgiliau athrawon, capasiti ysgolion a chymwysterau ac adnoddau, yn arwain at gylch diddiwedd fydd yn parhau i lesteirio gwelliant yn sgiliau Cymraeg disgyblion Cymru."
Rhaid i awdurdodau lleol lunio cynlluniau uchelgeisiol a beiddgar er mwyn sicrhau dyfodol yr iaith, medd y Comisiynydd, ac mae'n ategu bod yn rhaid cael ymateb cadarn gan Lywodraeth Cymru "pe bai'r cynlluniau hyn yn annigonol".
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "O edrych ymlaen, ein blaenoriaeth nawr yw gweithredu'n Rhaglen Waith, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, ar gyfer y Gymraeg dros y pum mlynedd nesaf.
"Rydym hefyd yn awyddus i ystyried pob ymyrraeth polisi iaith gan y llywodraeth a'i phartneriaid drwy lens cynyddu defnydd o'n hiaith ni.
"Felly rydym wedi gofyn i'r Comisiynydd wneud darn o waith am 'daith iaith' defnyddwyr a sefydliadau er mwyn deall yn well beth fyddai'n cau'r bwlch rhwng y niferoedd sydd ar hyn o bryd yn defnyddio gwasanaethau Cymraeg, a'r niferoedd sy'n gallu siarad Cymraeg - mater ry'n ni'n ddiolchgar i'r Comisiynydd am ei godi yn ei adroddiad.
"Yn ystod y pandemig, fe roddon ni arian ychwanegol i'n partneriaid i helpu eu gwaith i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg, gan gynnwys £1.3m i'r Urdd; £2.2m ar ddarpariaeth trochi hwyr a £200,000 i'r Eisteddfod Genedlaethol. Bydd ein dull o weithio mewn partneriaeth adeiladol yn parhau dros y pum mlynedd nesaf."
Mae'r adroddiad yn nodi bod cael y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn ddatblygiad arwyddocaol a cham arall pwysig, yn ôl y Comisiynydd, yw cyflwyno hawliau cyfreithiol newydd i ddefnyddio'r Gymraeg.
Nodir bod 123 o sefydliadau yn gweithredu safonau'r Gymraeg bellach, gan gynnwys sefydliadau yn y gwasanaeth iechyd, colegau a phrifysgolion, heddluoedd a chynghorau sir.
"Mae hyn yn sail i fod yn obeithiol am ddyfodol y Gymraeg mewn rhai amgylchiadau, ond mae nifer o feysydd lle na welwyd cynnydd digonol, lle collwyd cyfleon, neu lle na roddwyd ystyriaeth deg a theilwng i'r Gymraeg," meddai Mr Roberts.
"Rydw i eisiau gweld ehangu'r safonau ar draws y sector cyhoeddus, a rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle a thu hwnt."
Wrth ystyried effeithiau Brexit a Covid-19 ar y Gymraeg dywed y Comisiynydd nad yw'n teimlo ar hyn o bryd "bod yr iaith wedi bod yn ystyriaeth ganolog yn y cynlluniau adfer".
Mae'n rhybuddio y gallai hynny gael effaith andwyol hirdymor ar ddyfodol yr iaith.
Dyma ail adroddiad pum mlynedd y Comisiynydd ar sefyllfa'r Gymraeg - cafodd y cyntaf ei gyhoeddi yn 2016.
Mae cyhoeddi adroddiad pum mlynedd ar sefyllfa'r Gymraeg yn un o ddyletswyddau statudol y Comisiynydd yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Bu gostyngiad o dros 20,000 yn nifer y siaradwyr Cymraeg rhwng 2001 a 2011 ac roedd gostyngiad hefyd yn nifer y cymunedau lle'r oedd dros 70% o'r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg (o 53 cymuned yn 2001 i 39 yn 2011).
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2021
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd6 Awst 2020
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2017