Hoffech chi fferm solar 52 erw ar stepen y drws?

Yn 2019 cafodd cynlluniau am fferm solar newydd ger cartref Nel Richards, Gohebydd Ifanc BBC Cymru, eu gwrthod gan Gyngor Abertawe.

Y bwriad oedd codi'r fferm ar 52 erw o dir amaethyddol yng Nghraig Cefn Parc - hen ardal lofaol ger Abertawe sydd bellach wedi troi'n gwm gwyrdd.

Gwrthodwyd y cynlluniau dros bryder am effaith negyddol ar ecoleg yr ardal.

Gyda Llywodraeth Cymru'n anelu at gael mwy o gymunedau gwyrdd yng Nghymru, aeth Nel ati i ddeall mwy am y tensiynau a grëwyd gan y datblygiad posib.