Cyllideb 2021: Rhagolygon gwell na'r disgwyl i'r economi
Yn cyhoeddi ei gyllideb ddydd Mercher dywedodd y Canghellor Rishi Sunak mai dyma "ddechrau ar y gwaith o baratoi ar gyfer economi newydd ar ôl y pandemig".
Yn ôl Guto Ifan o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, stori fawr y gyllideb oedd y rhagolygon y bydd effaith y pandemig ar yr economi yn llai na'r hyn oedd yn cael ei ragweld 'nôl ym mis Mawrth.
Ychwanegodd ar Dros Frecwast fore Iau fod y "rhagolygon ar gyfer gwariant dydd i ddydd gwasanaethau cyhoeddus wedi trawsnewid yn llwyr dros y misoedd diwethaf".
Dywedodd ei fod yn credu bod y llywodraeth wedi gorfod gwario mwy yn dilyn y pandemig, a degawd o lymder cyn hynny - a bod y boblogaeth ar lawr gwlad wedi bod yn galw am hynny.
Ond ychwanegodd ei bod yn anochel mai cynnydd mewn trethi fydd yn helpu i dalu am y cynnydd mewn gwariant.