Cyllideb 2021: Cyhoeddi cynlluniau Llywodraeth y DU

  • Cyhoeddwyd
Y Canghellor Rishi Sunak yn cyhoeddi ei gyllideb
Disgrifiad o’r llun,

Y Canghellor Rishi Sunak yn cyhoeddi ei gyllideb

Mae'r Canghellor Rishi Sunak wedi dweud bod ei gyllideb yn "dechrau ar y gwaith o baratoi ar gyfer economi newydd ar ôl y pandemig".

Dyma'r ail gyllideb ers y pandemig.

Dywedodd Mr Sunak "nid yw'r gyllideb hon yn tynnu llinell o dan Covid" a rhybuddiodd bod "heriau o'n blaenau".

Mae'n galw ar bobl i gael eu brechiadau atgyfnerthu (booster) pan gânt eu gwahodd.

Mae chwyddiant wedi cyrraedd 3.1% ac yn debygol o godi ymhellach, meddai, oherwydd ffactorau byd-eang a'r galwadau am nwyddau yn cynyddu.

Trwy fformiwla Barnett, meddai'r Canghellor, "rydym yn cynyddu cyllid Llywodraeth yr Alban, y flwyddyn nesaf, o £4.6bn, cyllid Llywodraeth Cymru o £2.5bn, a £1.6bn i Lywodraeth Gogledd Iwerddon".

Bydd £18 biliwn y flwyddyn i Lywodraeth Cymru.

Dywed mai nhw yw'r "grantiau bloc mwyaf ar gyfer y gweinyddiaethau datganoledig ers setliadau datganoli 1998."

Ond dywed Rebecca Evans, gweinidog cyllid Llywodraeth Cymru, bod y gyllideb yn cynnwys "bylchau amlwg yn y cyllid" lle nad yw San Steffan wedi buddsoddi yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Maw cyllid Llywodraeth Cymru i gynyddu £2.5bn, medd y Canghellor

Mae'r canghellor hefyd wedi dyrannu'r rownd gyntaf o gynigion o'r Gronfa Lefelu i Fyny, gan gynnwys £110m yng Nghymru, £150m yn yr Alban, a £50m yng Ngogledd Iwerddon.

"Bydd hyn o fudd i'r DU gyfan," meddai Mr Sunak.

'Daearyddiaeth economaidd anwastad'

Ychwanegodd fod gan y DU "ddaearyddiaeth economaidd anwastad" y mae angen ei datrys wrth i'r DU ddod allan o'r "sioc economaidd waethaf a welsom erioed".

Cyhoeddodd hefyd:

  • bydd y "cynnydd arfaethedig" mewn treth tanwydd yn cael ei ganslo;

  • bydd hediadau rhwng meysydd awyr yn Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn destun cyfradd is newydd o Dreth Teithwyr Awyr o Ebrill 2023;

  • toriad o 5% i dreth ar gwrw a seidr drafft wedi'i weini o gynwysyddion dros 40 litr;

  • toriad i'r gyfradd meinhau credyd cynhwysol o 63% i 55%.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Dywed Mr Sunak fod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) wedi diwygio ei rhagolygon ar gyfer twf economaidd y DU.

Mae'r OBR bellach yn disgwyl i gynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) ehangu 6.5% eleni o'i gymharu â'r 4% y rhagwelodd yn y Gyllideb ym mis Mawrth. Mae hyn yn is na'r hyn y mae Banc Lloegr yn ei ddisgwyl - mae'n rhagweld twf o 7.4%.

Dywed fod gwariant yn tyfu 3.8% y flwyddyn mewn termau real, gyda chynnydd gwirioneddol mewn gwariant ar gyfer pob adran o'r llywodraeth.

Nid yw'n syndod bod y gyllideb yn canolbwyntio ar sut mae'n bosib adfer yr economi wedi Covid.

Oherwydd datganoli, mae nifer o gyhoeddiadau'r canghellor mewn meysydd fel iechyd, diwylliant a chymorth i fusnesau ar gyfer Lloegr yn unig.

Roedd eisoes wedi cyhoeddi cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol o £8.91 yr awr i £9.50, i ddod i rym o 1 Ebrill.

Dadansoddiad ein gohebydd gwleidyddol, Catrin Haf Jones

Roedd digon o alwadau ar y Canghellor wrth iddo lunio'i gyllideb ddiweddaraf - ac er bod rhaid torri'r gôt yn ôl y brethyn, y gwir yw bod siâp y gôt ar ddyddiau fel hyn, o hyd, yn gwestiwn gwleidyddol.

Cyllideb obeithiol ar gyfer byd wedi'r pandemig oedd hon, meddai Rishi Sunak, ar gyfer dyheadau'r blaid - a darpar Brif Weinidog o bosib - o drio codi safon byw pawb gyda'u cynlluniau Levelling Up, a dangos bod modd rheoli'r ddyled tra'n dal i wario ar y pethau pwysig.

Ac i Gymru? Addewid o £2.5 biliwn ychwanegol i gyllideb Llywodraeth Cymru bob blwyddyn, ar gyfartaledd.

Ond dyw mathemateg y ffigwr hwnnw ddim i'w weld yn yr un o dablau 'Llyfr Coch' y Gyllideb.

Yn ôl y tabl sy'n dangos grant blynyddol Llywodraeth Cymru bydd hwnnw'n codi o £15.9bn yn y flwyddyn ariannol hon i £18.2bn erbyn 2024-25. Cynnydd, ie, ond £2.5bn y flwyddyn?

Mae'r esboniad, medd y Trysorlys, yn y glo mân: bod y gwahaniaeth rhwng y ffigyrau yn deillio o'r ffaith fod y "£2.5bn ychwanegol, ar gyfartaledd, dros y dair blynedd nesaf" yn cynnwys arian o drethi sydd wedi eu datganoli i Gymru, sy'n cael eu codi a'u cadw yng Nghymru… glo mân, mân iawn.

Ffynhonnell y llun, Jon Pountney
Disgrifiad o’r llun,

Pwy ddylai dalu am ddiogelu tomenni glo Cymru - Caerdydd neu Lundain? Mae'r ffrae yn dal i rygnu 'mlaen ar ôl y Gyllideb

Ac o sôn am lo - ble'r oedd e yng nghyllideb y Canghellor? Dyna gwestiwn mawr Llywodraeth Cymru.

Mae'r ddadl am bwy ddylai dalu am domenni glo risg uchel Cymru yn rhygnu 'mlaen, a Llywodraeth Cymru yn dweud mai arian i ddelio â'r risg hwnnw oedd eu prif gais i'r Canghellor yn ei gyllideb heddiw. Ond amau'r gost a mynnu mai Caerdydd sydd â'r cyfrifoldeb, yn sgil datganoli, y mae San Steffan.

Mae cwestiynau hefyd dros y £121m sydd i ddod i 10 prosiect yng Nghymru fel rhan o'r gronfa Levelling Up - a chyhuddiadau gan rai bod y Ceidwadwyr yn ffafrio siroedd glas Cymru.

Fe fydd 60% o'r arian yn mynd i seddi Ceidwadol yng Nghymru - De Clwyd, er enghraifft, a gipiwyd gan y Ceidwadwyr yn 2019 yn derbyn £13.3m ar gyfer adnewyddu Pontcysyllte - tra bod yr arian sydd ar ôl yn cael ei rannu rhwng pum prosiect arall sy'n amrywio o adnewyddu Hen Goleg a Marina Aberystwyth i Hwb Trafnidiaeth Porth, y Rhondda, i ailagor Canolfan Gelfyddydau Muni Pontypridd.

Mae'n anodd plesio pawb mewn unrhyw gyllideb - yn enwedig un sy'n dod yng nghysgod siglad economaidd Brexit a'r pandemig - ond tra bod y dreth ar incwm ar godi, law yn llaw â chwyddiant yn bwrw costau byw lan, roedd ymdrech i iro rhywfaint ar heriau'r blynyddoedd nesaf - o 2023 fe fydd peint o gwrw neu lasied o rhywbeth pefriog, fel liciwch chi, rai ceiniogau'n rhatach. Iechyd da!

Beth ydy'r ymateb?

Dywedodd Rebecca Evans, gweinidog cyllid Llywodraeth Cymru: "Nid yw'r Adolygiad o Wariant hwn gan Lywodraeth y DU wedi cyflawni dros Gymru.

"Mae blaenoriaethau cyllid hanfodol - fel adfer safleoedd tomenni glo yn y tymor hir a mwy o gyllid ar gyfer y seilwaith rheilffyrdd - wedi cael eu hanwybyddu'n llwyr.

"Mae'r Adolygiad o Wariant yn rhoi rhywfaint o sicrwydd ariannol inni yn y tymor canolig ac ychydig o fuddsoddiad ychwanegol, ond mae hyn yn cael ei wrthbwyso'n llwyr gan y pwysau rydyn ni'n ei wynebu yn y system ac yn sgil chwyddiant.

"Nid yw'r Gyllideb yn llwyddo i gwrdd â maint yr her sy'n wynebu teuluoedd, gwasanaethau cyhoeddus a'r economi yn ehangach o ganlyniad i'r pandemig."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae bylchau amlwg yn y cyllid lle y dylai Llywodraeth y DU fod yn buddsoddi yng Nghymru," medd Rebecca Evans

Ychwanegodd Rebecca Evans: "Nid yw'r trefniadau ar gyfer disodli Cronfeydd Strwythurol yr UE yn glir o hyd. Ond rydyn ni yn gwybod bod y trefniadau hynny ymhell o fodloni'r £375m y flwyddyn roedden ni yn ei dderbyn - dyma'r cronfeydd sy'n cefnogi sgiliau, busnesau a datgarboneiddio.

"Mae disgwyl i brosiect rheilffyrdd HS2 gael effaith negatif o £150m y flwyddyn ar economi Cymru, a gallai'r diffyg cymorth i ddod o hyd i ateb hirdymor ar gyfer tomenni glo Cymru arwain at bwysau ariannol ychwanegol o £60m y flwyddyn o leiaf."

'Methu'

Dywedodd arweinydd seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts: "Heddiw roedd angen Cyllideb drawsnewidiol arnom a fyddai'n rhoi arian ym mhocedi pobl yn y tymor byr a thymor hir, a pholisïau uchelgeisiol i osod esiampl fyd-eang cyn COP26.

"Methodd y Canghellor ar y ddau gyfrif.

"Bydd Cymru yn dal i gael dim o'r gwariant HS2 gan yr Adran Drafnidiaeth yn Lloegr.

"Nid yw'r holl sôn am arweinyddiaeth ar hinsawdd a 'lefelu i fyny' yn golygu dim pan fydd San Steffan yn parhau i wadu £5bn o arian rheilffordd sy'n ddyledus i Gymru."