Arbenigwyr yn ein hatgoffa o'r hyn sydd yn y fantol
2050 yw'r flwyddyn sy'n cael ei chrybwyll o hyd yn y trafodaethau presennol am newid hinsawdd.
Erbyn hynny mae angen i'r byd fod wedi sicrhau cydbwysedd rhwng allyrru ac amsugno'r nwyon sy'n cynhesu'r blaned.
Mae'n dasg anferth - gydag arweinwyr rhyngwladol ar fin cwrdd yn Glasgow i ystyried a ydyn nhw'n gwneud digon i allu cyrraedd y nod.
Mae BBC Cymru Fyw wedi gofyn i rai o arbenigwyr y maes ym mhrifysgolion Cymru i'n hatgoffa o'r hyn sydd yn y fantol.