Hinsawdd: Sut allwn ni helpu Cymru i gyrraedd sero-net?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
siopa mewn archfarchnadFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynllun y llywodraeth yn annog pobl i brynu'n lleol i gefnogi ffermwyr Cymru

Mae ymdrechion i helpu pobl i fyw bywydau mwy eco-gyfeillgar wrth wraidd strategaeth newydd i fynd i'r afael ag ôl troed carbon Cymru.

Mae'n gofyn i bobl gwtogi'r defnydd o ynni, gyrru llai a phrynu bwyd lleol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod angen "degawd o weithredu" i gyrraedd targedau newid hinsawdd.

Daw wrth i weinidogion baratoi i deithio i Glasgow i ymuno ag arweinwyr byd-eang ar gyfer uwchgynhadledd COP26.

Beth ydy sero-net?

Mae sero-net yn cyfeirio at y balans rhwng faint o allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n cael eu gollwng i'r atmosffer, a faint sy'n cael eu tynnu allan.

Byddai sero-net yn golygu nad ydym yn adio mwy na'r ydym yn ei dynnu allan.

Dywedodd y llywodraeth fod y cynllun newydd yn ddechrau "taith" tuag at economi sero-net erbyn canol y ganrif.

Ond mae'r cynllun yn canolbwyntio'n benodol ar y cyfnod rhwng 2021-2025 - pan fydd angen gostyngiad o 37% mewn nwyon cynhesu byd-eang i gwrdd â gofynion ail gyllideb carbon Llywodraeth Cymru.

Yr amcangyfrif yw y bydd y mesurau yn costio rhyw £4.2bn i'w gweithredu dros bum mlynedd.

Mae'r llywodraeth yn gofyn i bob dinesydd, cymuned, grŵp a busnes yng Nghymru i "ymgorffori'r argyfwng hinsawdd yn y ffordd maen nhw'n meddwl, gweithio, chwarae a theithio".

Beth mae'r cynllun yn ei ddweud?

Trydan a Gwres

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gallwn wneud gwahaniaeth trwy newid y ffordd yr ydym yn defnyddio trydan a nwy yn ein cartrefi

Bydd allyriadau nwyon tŷ gwydr o bwerdai yn cael eu dileu "bron yn llwyr" erbyn 2035.

Mae pwerdai tanwydd ffosil newydd wedi'u gwahardd, a bydd cynhyrchu nwy yn cael ei ddileu'n raddol.

Dim ond pwerdai sydd wedi llwyddo i osod technoleg dal carbon fydd yn gallu parhau i weithredu ar ôl 2035.

Mae'r weledigaeth ar gyfer system adnewyddadwy fwy - felly mwy o ffermydd gwynt, pŵer solar a chynlluniau llanw.

Bydd targedau newydd ar gyfer ynni gwyrdd yn cael eu cyhoeddi - ond nid ydynt yn y cynllun hwn.

Mae pobl yn cael eu hannog i wneud y pethau sylfaenol i arbed ynni fel diffodd goleuadau, manteisio ar gynigion i gael smart meters a dewis yr offer mwyaf effeithlon o ran ynni.

Trafnidiaeth

Disgrifiad o’r llun,

Mae teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn un ffordd o leihau ein ôl-troed carbon

Mae Cymru wedi cael trafferth torri ei hallyriadau o drafnidiaeth - gyda chwymp o 6% yn unig ers 1990.

Mae gweinidogion eisiau i 35% o deithiau pobl fod trwy gerdded, beicio neu drafnidiaeth gyhoeddus erbyn 2025 a 39% erbyn 2030.

Maent hefyd yn targedu toriad o 10% yn nifer y milltiroedd ceir a deithiwyd fesul person erbyn diwedd y ddegawd.

Mae yna addewid o "fuddsoddiad mawr" i wneud trafnidiaeth cyhoeddus yn fwy deniadol.

Cartrefi

Erbyn 2025 bydd technolegau gwyrdd ym mhob cartref fforddiadwy newydd yng Nghymru fel nad ydyn nhw'n cynhyrchu allyriadau.

Mae'r llywodraeth yn disgwyl i ddatblygwyr preifat fabwysiadu ei safonau sero-net hefyd.

Ond datgarboneiddio 1.43 miliwn o'r math yma o gartrefi sydd yng Nghymru'n barod yw'r her go iawn.

Yn ôl y llywodraeth, bydd tua 148,000 wedi derbyn mesurau i'w gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni erbyn 2025.

Diwydiant

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r allyriadau nwyon tŷ gwydr o waith dur Tata, Port Talbot, ymhlith yr uchaf yn y DU

Bydd Llywodraeth Cymru'n treulio y 2020au yn gweithio gyda diwydiant yn "datblygu a chynyddu" opsiynau megis technoleg dal a storio carbon, a thanwydd hydrogen.

Yn ôl gweinidogion, bydd hyn yn eu helpu i ddeall pa mor ymarferol yw rhain - yn y cyfamser, mae'n bwysig canolbwyntio ar newidiadau ymddygiad, medden nhw.

Ffermio a Defnydd Tir

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 9.5 miliwn o ddefaid ac wyn yng Nghymru, ac 1.1 miliwn o wartheg a lloi, sy'n cyfrannu at allyriadau nwyon tŷ gwydr

Dyw'r cynllun ddim yn galw'n benodol am doriad yn faint o gig a llaeth 'da ni'n ei fwyta ac yfed. Yn hytrach, mae'n annog pobl i brynu'n lleol i gefnogi ffermwyr Cymru.

Ond mae'r llywodraeth yn dweud y gallai newidiadau mewn ymddygiad gan brynwyr a ffermwyr ryddhau rhywfaint o dir o amaethyddiaeth.

Mae am i 10% o dir ffermio gael ei "rannu" erbyn 2050 - felly gellir plannu coed a gwrychoedd newydd.

Bydd 43,000 hectar o goetir newydd yn cael ei blannu erbyn 2030 a 180,000 hectar erbyn 2050.

Beth arall?

Disgwylir i gynghorau, byrddau iechyd a gweddill y sector cyhoeddus gyhoeddi cynlluniau erbyn 2023 a allai eu gweld yn cyrraedd sero-net erbyn 2030.

Mae yna gynlluniau i orfodi busnesau i ailgylchu mwy i helpu Cymru i gyrraedd y brig o ran mynd i'r afael â gwastraff.

Mae ystod eang o blastigau un-defnydd i'w gwahardd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ai peth prin fydd cael orennau allan o'u tymor yn y dyfodol?

Dywedodd Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, Julie James ar Radio Wales fore Iau y dylai pobl siopa'n lleol a cheisio bwyta llai o fwydydd sydd allan o'u tymor.

"Os ydych chi'n prynu orennau allan o'u tymor, treat ddylai e fod, nid rhywbeth chi'n ei gymryd yn ganiataol," meddai.

"Gyda'n cadwyni cyflenwi byd eang, rydyn ni wedi anghofio hynny.

"Mae'n cadw ein ffermwyr yn hapus, diwydiannau lleol yn gweithio'n dda ac yn gwneud ein byd yn le mwy cynaliadwy ar gyfer ein plant, a phlant ein plant."

Er na ellir tanamcangyfrif maint yr her, bydd yn arwain at swyddi a chyfleoedd medrus iawn sy'n talu'n dda a chyfleoedd i adleoli gweithwyr o ddiwydiannau traddodiadol, meddai'r llywodraeth.

Mae'r cynllun yn dwyn ynghyd 123 o bolisïau a chynigion er mai ychydig iawn sy'n gyhoeddiadau newydd.

Trwy gydol y ddogfen mae gweinidogion yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu hefyd "i ddatgloi dyfodol gwyrdd yng Nghymru".

Mae ymgynghorwyr y llywodraeth wedi dweud bod tua 60% o'r newidiadau sydd eu hangen yng Nghymru erbyn 2050 mewn meysydd sydd o dan reolaeth llywodraeth San Steffan - o gymorthdaliadau i annog pobl i droi at gerbydau trydan, i uwchraddio'r Grid Cenedlaethol.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Er na all y DU gyrraedd ei thargedau heb weithredu gan Gymru, ni allwn gyrraedd ein huchelgais heb i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan deg.

"Credwn y gallwn, trwy weithio gyda'n gilydd a chymryd camau ar y cyd, ddarparu Cymru gryfach, tecach a gwyrddach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."