'Pryderu' am fynd i'r brifysgol heb brofiad gwaith
Mae cynllun newydd yn ceisio gwella darpariaeth profiad gwaith i bobl ifanc sy'n dweud iddynt golli allan yn ystod y pandemig.
Dywedodd disgyblion eu bod "o dan gwmwl" o ansicrwydd ynghylch eu dyfodol oherwydd diffyg profiad gwaith.
Mae elusen Speakers for Schools a Gyrfaoedd Cymru yn ffurfio partneriaeth er mwyn unioni'r cyfleoedd sydd ar gael i ddisgyblion llai breintiedig.