Disgyblion 'dan gwmwl' ansicrwydd heb brofiad gwaith

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Pa mor anodd yw cymryd y cam nesaf i fyd gwaith heb gael profiad?

"Fi'n meddwl bod e'n gosod ni o dan gwmwl o ddim yn gwybod beth ni am gael pan ni'n mynd i weithio yn y dyfodol.

"A wedyn wrth ymgeisio i'r brifysgol ma fe'n neis gw'bod bo' chi'n mynd i fwynhau ac mae profiad gwaith yn gallu rhoi'r hyder yna i chi."

Dyna farn Harri, un o ddisgyblion chweched dosbarth Ysgol Plasmawr, Caerdydd, sydd fel gymaint o'i genhedlaeth yn teimlo iddyn nhw golli cyfleoedd pwysig yn ystod y pandemig.

Mae profiad gwaith yn un esiampl amlwg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae profiad gwaith yn helpu disgyblion i wneud penderfyniadau am eu dyfodol, meddai Harri

Mae Magi, un o'i gyd-ddisgyblion, yn eilio'r rhwystredigaeth.

"Dwi'n gobeithio gwneud parafeddygaeth yn y brifysgol, ond dwi ddim wedi gallu cael profiad gwaith ar gyfer hynny, am mai dim ond yn ddiweddar dwi wedi penderfynu mai dyma'r maes fi eisiau mynd mewn i.

"Felly dwi'n pryderu bach."

Disgrifiad o’r llun,

"Oedd yr ateb wastad yn 'sori, dim ar y foment'," meddai Manon am geisio dod o hyd i brofiad gwaith

Astudio Meddygaeth yw gobaith Manon.

Er iddi lwyddo i gael ychydig o brofiad o'r maes, mae'n dweud i'r cyfnod fod yn anodd.

"Oedd yr ateb wastad yn 'sori, dim ar y foment'. Ac yn ystod y rhan fwyaf o'r pandemig ges i ddim byd, oherwydd roedd e just yn really anodd."

Barn tri sy'n adleisio cymaint o'u cyfoedion - sef gweithlu'r dyfodol.

Profiadau i'r genhedlaeth nesaf

Nawr mae cynllun ar droed i ateb galw cynyddol am brofiadau i'r genhedlaeth nesaf o weithwyr.

Er mwyn darparu cyfleoedd i ddisgyblion, mae elusen Speakers for Schools a Gyrfaoedd Cymru yn ffurfio partneriaeth er mwyn geisio unioni cyfleoedd i blant o gefndiroedd llai breintiedig.

Mae'r rhyngrwyd a'r byd rhithwir, medden nhw, yn cynnig cyfleon dirifedi.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Caitlin o Bontyclun gyfle "gwych" i ddysgu gyda chwmni Bentley drwy'r cynllun

Mae Caitlin o Ysgol y Pant, Pontyclun â'i bryd ar weithio yn y diwydiant ceir.

Mae hi eisoes wedi dechrau ar y llwybr ac wedi elwa o'r bartneriaeth newydd drwy gael profiad gwaith rhithwir gyda chwmni ceir moethus Bentley.

"Roedd e'n wych," meddai. "Yn wych i weld yr holl gyfleoedd ac yn wych i weld cymaint o ferched, sydd ddim yn arferol."

"Roeddwn i eisiau gweithio gyda cheir ond doedd gyda fi ddim syniad sut i ddod i'r pwynt yna, ac felly roeddwn i'n lwcus i gael y profiad gyda Speakers for Schools.

"Bydden i'n dweud fod e'n well gwneud e ar-lein oherwydd gan mai dim ond un diwrnod oedd e, byddai'n llawer i deithio draw i Crewe o yma yn ne Cymru."

Annog disgyblion i anelu'n uwch

Dim ond 7% o blant y Deyrnas Unedig sy'n mynd i ysgolion preifat, ond nhw sy'n aml yn hawlio'r swyddi gorau ac yn arwain proffesiynau blaenllaw.

Nod y cynllun yma yw ceisio cywiro hynny a magu hyder ymhlith disgyblion i anelu'n uwch.

Mae cynnig cyfleoedd rhithiol i bobl ifanc wedi diddymu sawl un o rwystrau profiadau gwaith wyneb yn wyneb, yn ôl Sarah Cleveley, un o gyfarwyddwyr ymgysylltu elusen Speakers for Schools.

"Lle maen nhw'n byw, eu gallu i gyrraedd y gweithle, yn aml mae pobl ifanc am gael profiadau cannoedd o filltiroedd i ffwrdd.

"Mae hyn wedi'n galluogi ni i gynnig cyfleoedd i lawer mwy o bobl ifanc.

"Drwy'r Deyrnas Unedig ry'n ni wedi cynnig 50,000 o gyfleon y llynedd, ry'n ni'n bwriadu cynyddu hyn i 169,000 o gyfleoedd flwyddyn nesa."

Mae'r cynllun eisoes wedi ennill ei blwyf yn Lloegr, ac ymhlith y cyflogwyr mawr sy'n ei gefnogi mae Banc Lloegr, Tesco, Spotify a Virgin Atlantic. Iddyn nhw mae'r manteision yn amlwg.

Mae Aled Evans yn gynghorydd busnes i asiantaeth Gyrfaoedd Cymru, un o bartneriaid y fenter newydd.

"Mae wedi bod yn anodd i roi cyfleoedd profiad gwaith wyneb yn wyneb i bobl ifanc, yn enwedig ar ddechrau'r pandemig.

"Ond ni wedi gweithio'n agos gyda'n cyflogwyr i ddarparu ffyrdd eraill o roi gwybodaeth a phrofiad i bobl ifanc am y byd gwaith.

"Mae cyfleoedd profiad gwaith rhithiol yn cael gwared ar nifer o rwystrau, megis safle daearyddol, costau teithio, costau llety ac ati."

Mae'r cynllun rhithiol eisoes wedi dwyn ffrwyth i Caitlin, gan iddi sicrhau rhagor o brofiad gwaith mewn garej leol. Mae ei phryd nawr ar astudio peirianneg yn y brifysgol.

Pynciau cysylltiedig