Ymosodiadau cŵn ar ddefaid: 'Ges i sioc ar 'y mywyd i'

Dan gynlluniau sy'n cael eu trafod fel rhan o fesur newydd yn San Steffan fe fyddai modd i swyddogion heddlu gymryd sampl DNA gan gi sydd dan amheuaeth o ymosod ar ddefaid er mwyn dilysu'r honiadau.

Mae'r heddlu, cynrychiolwyr amaeth a'r Kennel Club wedi dweud y byddai newid i'r gyfraith yn rhywbeth i'w groesawu, yn y gobaith o atal ymosodiadau gan gŵn ar ddefaid.

Un sydd wedi bod trwy'r "sioc" o golli bron i 30 o ddefaid ac ŵyn ar ei fferm yn ardal Y Fali ar Ynys Môn yw Gareth Hughes.

Rhybudd: Fe all y fideo beri gofid i rai gwylwyr.