Defnyddio DNA i adnabod cŵn sy'n ymosod ar ddefaid?

  • Cyhoeddwyd
Gareth Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Gareth Hughes bron i 30 o ddefaid ac ŵyn ym mis Ionawr 2020

Rhybudd: Mae lluniau yn y stori isod - canlyniad ymosodiad ar ddefaid - all beri gofid.

Mae ffermwr o Fôn yn dweud iddo wynebu nosweithiau di-gwsg ar ôl i gi ymosod ar ei ddefaid.

Fe gollodd Gareth Hughes o fferm Cleifiog, Y Fali bron i 30 o ddefaid ac ŵyn ym mis Ionawr 2020 ac mae o rŵan yn cefnogi newidiadau posib i'r gyfraith fyddai'n ei gwneud hi'n haws i heddluoedd erlyn y rheiny sy'n gyfrifol.

Dan gynlluniau sy'n cael eu trafod fel rhan o fesur newydd yn San Steffan fe fyddai modd i swyddogion yr heddlu gymryd sampl DNA gan gi sydd wedi ei amau o ymosod ar ddefaid er mwyn dilysu'r honiadau.

Mae uned troseddau cefn gwlad Heddlu'r Gogledd yn dweud fod "poeni defaid" yn broblem barhaus yng Nghymru a'u bod yn croesawu'r newidiadau posib.

'Gwaed ym mhobman'

Mae Mr Hughes yn dweud iddo gael sioc a braw enfawr pan gafodd ei alw gan ei fugail i'r digwyddiad.

"Ges i phone call gan un o'r hogiau oedd yn gweithio i mi yn dweud, 'sa well i ti ddod yma, 'sa'n well i ti gal y police yma'," meddai.

Disgrifiad,

Collodd Gareth Hughes bron i 30 o ddefaid ac ŵyn wedi i gi ymosod arnyn nhw (Rhybudd: fel all y fideo beri gofid i rai)

"Pan nes i gyrraedd, ges i sioc ar fy mywyd, roedd y cae 'mond rhyw chwe acer ac oedd gen i ryw 25-30 o ddefaid, ac oedd ci 'di attackio y defaid a'r ŵyn."

Yn ôl Mr Hughes roedd lot fawr o'r stoc wedi dioddef anafiadau difrifol gyda "gwaed ym mhobman".

"Rŵan dwi'n mynd i 'ngwely'n y nos yn gwybod bod y defaid dal yn yr un fferm a meddwl... ydi o'n mynd i ddigwydd eto? Mae o ar fy meddwl bob nos."

Disgrifiad o’r llun,

Mae 15,000 o ddefaid yn cael eu lladd gan gŵn ym Mhrydain bob blwyddyn

Fe gafodd Deddf Cŵn (Gwarchod Da Byw) ei chreu ym 1953, yr un flwyddyn a gafodd DNA ei ddarganfod gan Crick a Watson, ac ers hynny does 'na fawr o newidiadau nac addasiadau wedi eu gwneud i'r ddeddf er gwaetha'r datblygiadau gwyddonol a thechnolegol.

Roedd Aelod Seneddol Ceidwadol Ynys Môn, Virginia Crosbie eisoes wedi cynnig newidiadau i'r ddeddf bresennol mewn mesur newydd.

Ond mae hi rŵan wedi cynnig gwelliannau i Fesur Lles Anifeiliaid Llywodraeth y DU, fydd yn cael ei drafod ymhellach yn y flwyddyn newydd.

Mi fyddai'r gyfraith newydd sy'n cael ei gynnig yn diffinio fod ci "dan reolaeth" pan ar dennyn hyd at 1.8m neu fod gan y perchennog resymau dilys a chyfiawn i gredu fod y ci am ddychwelyd ar alw.

'Gwybod pwy sy'n berchen ar y ci'

"Mewn nifer o sefyllfaoedd, mae'r ffermwr yn gwybod pwy sy'n berchen ar y ci ac o le mae 'di dod," meddai Ms Crosbie.

"Mi fyddai'r mesur newydd yn rhoi rhagor o bwerau i heddluoedd fynd mewn i gartrefi perchenogion cŵn, cymryd sampl ac yna gobeithio pario'r sampl yna gyda'r DNA sy'n weddill ar y da byw sydd wedi ei ddifa."

Ychwanegodd Ms Crosbie fod y mwyafrif o bobl sy'n mynd a'u cŵn am dro yng nghefn gwlad Cymru yn deall y rheolau, ond bod angen rhagor o bwyslais ar addysgu'r unigolion sydd ddim.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Virginia Crosbie eisiau newid y gyfraith er mwyn cael cyfiawnder i ffermwyr fel Gareth Hughes

Mae'r Cwnstabl Dewi Evans yn un o swyddogion uned arbenigol troseddau cefn gwlad Heddlu Gogledd Cymru ers sawl blwyddyn bellach.

Tra bod ymosodiadau fel hyn wedi gostwng ers i'r tîm hwnnw gael ei sefydlu, mae'n dweud ei bod yn parhau'n broblem enfawr yng nghefn gwlad Cymru, gydag ymosodiadau'n digwydd yn wythnosol.

"Dydy'r term poeni defaid ddim yn cyfleu pa mor ddifrifol ydy'r digwyddiadau yma," meddai.

"Mae'r anafiadau maen nhw'n gallu dioddef yn ddifrifol."

'Datrys mwy o achosion'

Mae'r llu rŵan yn gobeithio y bydd y gyfraith newydd bosib yn eu helpu i erlyn mwy o achosion.

"Mae o'n rhoi tŵl newydd yn ein bocs tŵls, a'r gobaith ydy y byddwn ni'n gallu datrys mwy o achosion," meddai'r Cwnstabl Evans.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cwnstabl Dewi Evans fod defaid yn "dioddef yn ddifrifol" o ganlyniad i ymosodiadau

Mae NFU Cymru hefyd yn dweud fod y cynlluniau'n addawol.

Yn ôl ffigyrau swyddogol mae 15,000 o ddefaid yn cael eu lladd gan gŵn ym Mhrydain bob blwyddyn.

Mae sefydliad y Kennel Club hefyd yn croesawu'r cynlluniau newydd, ond yn rhybuddio efallai na fydd yn datrys o broblem o gofio fod "70% o ymosodiadau'n digwydd pan mae ci wedi dianc rhag eu perchnogion neu o erddi".

Mae'r ddeddf a'r gwelliannau rŵan wrthi'n cael eu craffu cyn cael eu cyflwyno am drydydd ddarlleniad yn San Steffan yn y flwyddyn newydd.