Natasha Harding: 2021 yn flwyddyn 'arbennig o dda' i'r tîm

Mae Natasha Harding yn dweud fod pethau wedi mynd yn "arbennig o dda" i dîm merched Cymru eleni wrth iddyn nhw gael dechrau da i'w hymgyrch Cwpan y Byd.

Er iddyn nhw golli 2-0 i Ffrainc - ffefrynnau'r grŵp - nos Fawrth, mae Cymru'n parhau i fod yn ail yn y grŵp rhagbrofol wrth iddyn nhw geisio cyrraedd y twrnament yn 2023.

Dan arweiniad eu hyfforddwr newydd Gemma Grainger mae'r tîm wedi ennill pedair a chael un gêm gyfartal eisoes yn yr ymgyrch hyd yma.

Ac fe fyddai canlyniad positif yn erbyn Ffrainc gartref ym mis Ebrill yn mynd tipyn o'r ffordd tuag at sicrhau'r ail safle, a lle yn y gemau ail gyfle.