Gêm ragbrofol Cwpan y Byd 2023: Ffrainc 2-0 Cymru
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Cymru ddangos cymeriad wrth golli 2-0 i Ffrainc yn Stade Municipal de Roudourou, Guingamp - a cholli eu record ddiguro yn yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2023.
Bu'n rhaid i dîm Gemma Grainger frwydro gyda 10 chwaraewr am dros 20 munud wedi i Kayleigh Green, am yr eildro yn yr ymgyrch, gael ei hel o'r maes ar ôl cael dau gerdyn melyn.
Sgoriodd Kadidiatou Diani ar ddiwedd yr hanner cyntaf i roi'r tîm cartref ar y blaen ac fe ddyblodd Selma Bacha y fantais ar ddiwedd yr ail hanner.
Jess Fishlock ddaeth yn agosaf at sgorio i Gymru, gan gynnwys ymdrech a darodd y postyn eiliadau cyn i wrthymosodiad Ffrainc ddarfod gyda gôl Bacha.
Roedd yna ddechrau addawol gan chwaraewyr Cymru, gydag ymgais cynnar ar y gôl gan Fishlock.
Roedd yna hefyd arbediad da gan Laura O'Sullivan dan bwysau gan yr ymosodwr Marie-Antoinette Katoto, ond wedi i'r ddwy daro'i gilydd bu'n rhaid i'r golwr gael sylw meddygol cyn cael cario ymlaen.
O fewn chwarter awr fe wnaeth y tîm cartref ddechrau codi gêr ac roedd yna eiliadau pryderus wedi i Kayleigh Green droi ei ffêr wrth lanio ar ôl mynd am y bêl.
Fe achosodd Kadidiatou Diani gur pen i amddiffyn Cymru - llwyddodd Hayley Ladd i benio un ymdrech yn glir - ac roedd yna ymdrechion hefyd gan Katoto ac Elisa de Almeida.
Fe greuodd Fishlock gyfle i Angharad James yn y cwrt chwech ond cafodd ei chroesiad ei atal.
Llwyddodd Cymru i wrthsefyll ymosodiadau Ffrainc ond roedd yna ddiffyg canolbwyntio ar ddiwedd y tri munud ychwanegol cyn yr egwyl.
Yn dilyn rhediad campus i lawr yr ochr dde, cafodd Delphine Cascarino y gorau ar Ladd a chroesi'r bêl yn isel at Diani wrth y postyn pellaf a'i hysgubodd i'r rhwyd.
Fe ymdrechodd Cymru i ymosod ar ddechrau'r ail hanner - y gwahaniaeth rhwng y ddwy ochr oedd niferoedd y chwaraewyr oedd yn ymuno ag ymosodiadau Ffrainc, a'u cyflymder wrth wrthymosod.
Cafodd Fishlock gyfle i unioni'r sgôr gyda foli arbennig wedi bron awr o chwarae. Wrth i amddiffyn Ffrainc fethu â chlirio'r bêl o'u cwrt fe laniodd o'i blaen ac roedd ei chyffyrddiad mor effeithiol roedd angen arbediad yr un mor safonol gan y golwr Pauline Peyraud-Magnin.
Daeth symudiad addawol gan Gymru i ben pan benderfynodd y dyfarnwr bod Carrie Jones yn camsefyll er roedd yn ymddangos nad dyna'r achos.
Ond wedi cyfnod mwy hyderus, roedd Cymru â mynydd i'w dringo wedi i Green gael ei hel o'r maes.
Os roedd amheuaeth iddi gael ei chosbi'n annheg yr yr hanner cyntaf am drosedd yn erbyn Charlotte Bilbault, roedd hi ei hun i'w weld yn derbyn bod ail gerdyn melyn yn anochel am dacl flêr ar Eve Perisset.
Serch yr anfantais, fe wnaeth Cymru barhau i geisio ymosod - daeth un ymosodiad i ben wedi llawio damweiniol gan Gemma Evans yng nghwrt Ffrainc.
Ond pan darodd ymdrech Fishlock, o dafliad hir, y postyn roedd Ffrainc yn sydyn i gael y bêl i ben arall y maes ac fe wibiodd ergydiad Bacha heibio O'Sullivan i'w gwneud hi'n 2-0.
Mae Ffrainc bellach â 18 o bwyntiau ar frig Grŵp I - pum pwynt yn fwy na Chymru sy'n parhau'n ail. Bydd y ddau dîm yn wynebu ei gilydd yng Nghaerdydd yn eu gêm ragbrofol nesaf ym mis Ebrill.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2021