'Trio gwneud gwahaniaeth i famau newydd fel fi'

Yn 2019, bu'n rhaid i Nia Foulkes o Bentrecelyn ger Rhuthun gael gofal mewn uned iechyd meddwl ym Manceinion wedi genedigaeth ei mab.

Roedd bod mor bell o'i chartref, ei theulu a'i phlentyn yn hunllefus, meddai, ac ar ôl gadael, aeth ati i ddechrau deiseb er mwyn ceisio sicrhau gofal yn nes at adref.

Fe wnaeth dros 7,700 o bobl lofnodi i gefnogi ei galwad am wella'r gwasanaethau sydd ar gael i deuluoedd eraill mewn sefyllfa debyg.

Er na fydd yn cael ei drafod ar lawr y Senedd ar hyn o bryd, dywedodd Nia y byddai'n parhau i geisio lledaenu'r neges gyda chymorth elusen.