Y frwydr am uned iechyd meddwl i famau yn y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae mam o Sir Ddinbych yn benderfynol o gael gwasanaethau iechyd meddwl i famau yn y gogledd er i ddeiseb beidio cyrraedd y nod.
Cafodd Nia Foulkes, o Bentrecelyn ger Rhuthun, driniaeth ym Manceinion yn dilyn genedigaeth ei mab, Gwilym, ddwy flynedd yn ôl.
Roedd Nia, 40, wedi cael diagnosis o anhwylder deubegwn (bipolar) yn 2012 ac yn ystod ei beichiogrwydd bu dan ofal ymgynghorydd gofal amenedigol (perinatal).
Yn fuan wedi geni Gwilym ym mis Mai 2019, cafodd Nia ei hanfon ar frys i uned iechyd meddwl arbenigol ar gyfer mamau newydd ym Manceinion.
Roedd hi'n dioddef o postpartum psychosis, salwch meddwl difrifol sy'n cael ei drin fel argyfwng meddygol.
A thra ei bod yno, ei theulu oedd yn gofalu am ei mab bach.
Mae hi'n poeni bod teuluoedd eraill yn dioddef gan nad oes uned arbenigol yng ngogledd Cymru.
"Do'n i ddim yn gwybod be' oedd yn mynd ymlaen i ddechra'. Ro'n i mor sâl," meddai wrth Newyddion S4C.
"O'dd o yn bach o sioc achos nesh i ddeffro ym Manceinion a ddim yn gwybod lle o'n i."
Ym mis Mehefin eleni, fe drefnodd Nia ddeiseb oedd yn galw am agor uned arbenigol i famau yn y gogledd, ac yn benodol hefyd gwasanaeth yn y Gymraeg.
Fe gasglodd bron i 8,000 o lofnodion - ond roedd angen 10,000 er mwyn caniatáu trafodaeth gan Aelodau'r Senedd.
Y pwyllgor deisebau fydd yn bwrw golwg dros yr alwad rŵan.
'Positif o brofiad negatif'
Mae Nia Foulkes yn ansicr o ran y camau nesa', ond mae hi'n dweud ei bod wedi cael galwadau gan amryw o elusennau sydd am ei helpu.
"Maen nhw'n mynd i bwsio fo hefo fi," meddai.
"Maen nhw'n gwybod be' i 'neud yn well na fi. 'Sgen i ddim clem lle i ddechrau i fod yn onest!
"Dwi jest isio neud rhywbeth positif allan o brofiad negatif."
Mewn datganiad mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dweud eu bod yn gweithio efo pwyllgor gwasanaethau iechyd arbenigol Llywodraeth Cymru i ddatblygu darpariaeth uned mam a babi i famau sy'n byw yn y gogledd.
Fe gafodd uned arbenigol ei agor yng Nghastell-nedd Port Talbot yn ddiweddar, ac yn dilyn hynny fe argymhellodd adroddiad trawsbleidiol edrych ar greu uned yn y gogledd hefyd.
Ond mae rhai yn amau a ydy'r bwriad yna wedi cael ei anghofio.
"Does 'na ddim tystiolaeth bod 'na drafod gwirioneddol yn digwydd," meddai Llyr Huws Gruffydd, Aelod o'r Senedd Gogledd Cymru.
"Mae'n rhaid i ni gael neges glir gan y llywodraeth."
Ychwanegodd ei fod yn poeni fod y llywodraeth yn teimlo eu bod "wedi neud eu job" ar ôl agor uned yn y de.
Mae Llywodraeth Cymru yn pwysleisio eu bod wedi ymrwymo i wneud yn siŵr fod darpariaeth uned mamau a babanod ar gael i famau yn y gogledd.
'Angen newid'
Am y tro gan nad oes uned arbenigol yn nes at adref, mae Nia a'i gŵr wedi penderfynu peidio cael mwy o blant.
Er hynny, mae am ddal ati i frwydro dros deuluoedd eraill.
"Nes i ddechrau'r deiseb a meddwl ma' 10,000 yn lot i gael at, so o'n i'n meddwl wel nawn ni jyst trio, so dwi yn andros o hapus," meddai.
"Ddaru pobl gysylltu efo fi yn bersonol, a rhai pobl yn d'eud blynyddoedd yn ôl [eu bod wedi] bod trwydda fo a d'eud pa mor anodd oedd o adeg yna.
"Cael gwasanaeth yn gogledd Cymru yn yr iaith Gymraeg sy'n bwysig iawn i fi. Ma' pethau angen newid."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2020