'Byddai talu dim treth busnes yn well na talu 50%'
Mae yna groeso gofalus i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd cwtogiad o 50% yn nhrethi busnesau siopau, tafarndai, bwytai, clybiau nos a busnesau hamdden yn parhau wedi diwedd mis Mawrth.
Dyna oedd un o brif bwyntiau cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, oedd hefyd yn cynnwys arian ychwanegol ar gyfer y GIG, addysg, gwasanaethau cyngor, cartrefi cymdeithasol a mynd i'r afael â newid hinsawdd.
Roedd yna bryder y byddai'r cwtogiad - ymgais i helpu busnesau fu'n rhaid cau am gyfnodau yn ystod y pandemig - yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Dywed llawer o berchnogion busnes y sector lletygarwch eu bod ond wedi dechrau adennill tir wedi 21 mis heriol, cyn i'r amrywiolyn newydd, Omicron ddod i'r amlwg gan arwain at ailgyflwyno rhai rheolau o 27 Rhagfyr.
Mae ansicrwydd yn parhau felly i bobl fel Rhian Davies yn rhedeg tŷ tafarn y Crown and Sceptre yn Nhregatwg, ger Castell-nedd.
Byddai hi wedi dymuno gwyliau treth busnes am 12 mis ond mae cwtogiad o 50%, meddai, "yn well na dim" ac mae hi'n ddiolchgar amdano.
Mae hi'n cydymdeimlo â phawb sy'n gorfod ymateb i sefyllfa heriol - gan gynnwys Llywodraeth Cymru.