Cwtogiad treth busnes 50% i barhau o fis Ebrill
- Cyhoeddwyd
Bydd siopau, tafarndai, bwytai a busnesau hamdden yn cael cwtogiad o 50% mewn trethi busnes o fis Ebrill - dyna un o brif bwyntiau cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Roedd yna bryder y byddai busnesau'n wynebu biliau uwch ar ddiwedd gostyngiadau dros dro yn sgil y pandemig.
Roedd llawer o fusnesau wedi cael osgoi talu unrhyw drethi busnes o gwbl - arian sy'n helpu talu am wasanaethau'r awdurdodau lleol.
Cyhoeddwyd cam tebyg yn achos Lloegr yng Nghyllideb y Canghellor Rishi Sunak yn yr hydref.
Bydd trethi busnesau eraill yn aros fel ag y maen nhw ar hyn o bryd.
'Cam at greu cenedl sero-net, decach'
Bydd £1.3bn yn ychwanegol yn cael ei wario ar y GIG yng Nghymru, medd gweinidogion, ac mae yna addewid o fwy o arian ar gyfer addysg a gwasanaethau cyngor.
Mae dogfennau'r llywodraeth yn dweud mai'r flaenoriaeth ydy "taclo'r rhestr hir o driniaethau sydd wedi eu hoedi oherwydd y pandemig".
Bydd cyfanswm o £1bn yn cael ei wario ar gartrefi cymdeithasol mewn Cyllideb, yn ôl y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans, a fydd yn rhoi Cymru'n "bellach ar hyd y llwybr i fod yn genedl sero-net, a chreu cenedl decach".
Hefyd bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda'r nod o ganiatáu i'r fersiwn Cymreig o'r dreth stamp yn achos ail gartrefi a lletyau gwyliau tymor byr amrywio o le i le.
Mae'r cyhoeddiad yn dilyn addewid o arian ychwanegol gan y Trysorlys, sy'n rhoi'r cyfran helaeth o gyllid Llywodraeth Cymru, ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Dywed arbenigwyr ym Mhrifysgol Caerdydd y bydd £2.9bn yn fwy ar gael i'w wario erbyn 2024.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, budd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn derbyn rhyddhad ardrethi annomestig o 50% yn y flwyddyn 2022-23, ar gost o £116m.
Bydd y cynllun yn capio'r budd i £110,000 i bob busnes.
Rhwng hynny a chynlluniau eraill i helpu gyda threthi, dywed gweinidogion y bydd yna gefnogaeth i 85,000 o leoliadau gwahanol, a bydd £35m yn rhagor yn mynd ar gyfer rhewi cyfraddau yn ystod 2022-23.
Yn ôl rheolwr gyfarwyddwr y Vale Resort ym Mro Morgannwg, roedd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddilyn esiampl Lloegr a pharhau gyda'r cwtogiad mewn trethu busnes.
Dywed Stephen Leeke bod pethau wedi dechrau gwella, gydag archebion ar gynnydd ers i gyfyngiadau Covid godi, ond roedd y gefnogaeth i fusnesau, fel y cynllun ffyrlo a'r cwtogiad mewn trethi busnes, yn ffactor mawr yn hynny o beth.
"Mae yna ddadl, yn sicr, y gallen nhw ystyried mynd ymhellach oherwydd rwy'n meddwl ei bod am fod ar dipyn o roller coaster yn yr ychydig fisoedd nesaf a does dim amheuaeth y bydd y diwydiant angen rhywfaint o gefnogaeth," meddai.
Cyllideb 'â chydraddoldeb wrth ei gwraidd'
Bydd cynghorau sir - sy'n ariannu ysgolion a gofal cymdeithasol - yn cael £750m yn fwy, ac mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod yn gwario £320m yn fwy ar addysg, gan gynnwys £90m ar brydau ysgol am ddim. Bydd £900m yn cael ei wario ar godi ysgolion.
Mae'r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru'n cynnwys addewid o brydau ysgol am ddim o bob disgybl cynradd o fewn tair blynedd.
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn gwario £1.8bn ar fuddsoddiadau o fewn ei hadran newid hinsawdd, sy'n cynnwys £1.6bn ar gartrefi.
Bydd yn rhoi £4.5m ar gyfer diogelu tomenni glo, gan gynyddu'r buddsoddiad i £44.4m.
Dywed Rebecca Evans bod y llywodraeth yn dal yn gweithredu o fewn "cyd-destun ariannol anodd" gyda chyllideb "sydd bron £3bn yn is na phetai wedi cynyddu yn unol â'r economi ers 2010-11".
Ychwanegodd: "Bydd y Gyllideb yma'n cefnogi Cymru'r presennol ac yn siapio Cymru'r dyfodol. Bydd yn cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus i fod yn gryfach, yn rhoi Cymru'n bellach ar hyd y llwybr i fod yn genedl sero-net, a chreu cenedl decach sydd â chydraddoldeb wrth ei gwraidd."
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae'r Gyllideb "wedi methu â chynnig cynllun ar gyfer economi gryfach" er i Lywodraeth Geidwadol y DU "roi'r cyllid mwyaf erioed" i Lywodraeth Lafur Cymru.
"Yn sgil hynny, rwy'n croesawu'r gwyliau trethi busnes sydd daer eu hangen i helpu cwmnïau ail-ffynnu wrth i heriau'r pandemig barhau," meddai llefarydd cyllid y blaid, Peter Fox.
Mae hefyd yn croesawu'r arian ychwanegol i'r awdurdodau lleol "sy'n darparu gymaint o wasanaethau allweddol" ond mae'n "siomedig nad oes cyllid ar gael i ddarparu canolfannau rhanbarthol llawfeddygol a diagnosteg i fynd i'r afael â rhestrau aros anferthol ein GIG".
Dywedodd hefyd bod gweinidogion Llafur y bydd methiant i glustnodi cyllid sylweddol ar gyfer gwella ffyrdd "yn parhau i ddal ein heconomi yn ôl".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2021