Cerbydau a chartrefi'n teimlo effaith Storm Eunice

Mae adeiladau wedi eu difrodi, cerbydau wedi eu chwythu drosodd a degau o filoedd o gartrefi wedi bod heb drydan wrth i Storm Eunice daro Cymru.

Cafodd gwyntoedd o dros 90mya eu cofnodi fore Gwener, ac roedd rhaid cau sawl ffordd gan gynnwys y ddwy bont dros Afon Hafren - y tro cyntaf i'r ddwy bont gau ar yr un pryd oherwydd gwyntoedd.

Ar yr M4 fe wnaeth dwy lori droi drosodd yn ardal Margam.