Storm Eunice: Miloedd heb bŵer wrth i wyntoedd 90mya daro
- Cyhoeddwyd
Mae 37,000 o gartrefi'n parhau heb drydan yn ne Cymru yn sgil Storm Eunice, er i 70,000 o gyflenwadau gael eu hadfer gan Western Power.
Cafodd gwyntoedd o dros 90mya eu cofnodi fore Gwener wrth i'r Swyddfa Dywydd rybuddio am "berygl i fywydau" - rhybudd coch - ar gyfer 10 o siroedd y de.
Daeth y rhybudd hwnnw i ben am hanner dydd, ond mae rhybudd oren am wyntoedd cryfion yn parhau mewn grym ar gyfer Cymru gyfan tan 21:00 nos Wener.
Mae diffoddwyr tân ledled Cymru wedi delio â mwy na 130 o ddigwyddiadau - gyda'r mwyafrif yn ardaloedd y de, canolbarth a'r gorllewin.
Mae pob gwasanaeth trên wedi'i ganslo tan ddydd Sadwrn, tra bod Pont Tywysog Cymru ar yr M4 a Phont Hafren yr M48 i dde Cymru ar gau. Mae Pont Tywysog Cymru bellach wedi ailagor.
Y gred ydy mai dyma'r tro cyntaf i'r ddwy bont gau ar yr un pryd oherwydd gwyntoedd ers i'r ail bont agor yn 1996.
Ond mae'r awdurdodau wedi galw ar fodurwyr i barchu staff sydd yno, yn sgil achosion o gamdriniaeth gan yrwyr.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai malurion chwythu yn y gwynt ac achosi perygl i fywydau, ac y dylid disgwyl difrod i adeiladau a llinellau trydan a tharfu ar drafnidiaeth.
Bydd holl ysgolion Rhondda Cynon Taf, Caerdydd, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe, Powys, Sir Ddinbych, Môn, Gwynedd, Blaenau Gwent, Conwy a Sir Benfro ar gau oherwydd y tywydd, gyda rhai disgyblion yn dysgu o bell.
Mae cynghorau Casnewydd a Bro Morgannwg yn dweud fod rhai ysgolion wedi cau yno hefyd.
Roedd y rhybudd coch mewn grym rhwng 07:00 a 12:00 ddydd Gwener ar gyfer Abertawe, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Caerfyrddin, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Mynwy, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ei fod wedi bod mewn cyfarfod COBR brynhawn Iau.
Brynhawn Gwener, trydarodd i ddweud fod "tarfu sylweddol yn parhau" gan annog pobl i beidio teithio, i gadw draw o'r arfordir ac i gofio am "gymdogion bregus".
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd un o gyfarwyddwyr Network Rail "nad oedd y penderfyniad i gau'r rheilffyrdd yn un hawdd" ac mai "diogelwch staff a theithwyr yw eu prif flaenoriaeth".
"Mae disgwyl i Storm Eunice ddod â gwyntoedd eithafol o hyd at 100mya ac mewn mannau mae'n debygol iawn y bydd coed a malurion yn cael eu taflu ar y llinellau trên," dywedodd Bill Kelly, cyfarwyddwr llwybrau Cymru a'r Gororau.
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau Trafnidiaeth Cymru, Martyn Brennan, y bydd unrhyw un sydd wedi prynu tocyn trên ar gyfer dydd Gwener yn gallu ei ddefnyddio tan ddydd Sul 20 Chwefror neu ofyn am ad-daliad.
Mae Stagecoach wedi canslo ei holl wasanaethau yn ne Cymru rhwng 07:00 ac 13:30 ddydd Gwener, tra bod Bws Caerdydd wedi cyhoeddi na fydd unrhyw wasanaethau yn rhedeg rhwng 07:00 hyd at 13:00 ddydd Gwener.
Mae Cyngor Ceredigion wedi rhybuddio bod "pryder mawr" y gallai Storm Eunice fod yn un o'r stormydd "mwyaf pwerus i effeithio ar Geredigion am nifer o flynyddoedd" gan rybuddio pobl i gymryd gofal.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Ceredigion y gallai canolfannau hamdden gael eu defnyddio "fel canolfannau gorffwys os bydd angen," gyda Prom Aberystwyth hefyd ar gau heno.
Mae Cyngor Caerdydd wedi dweud na ddylai pobl roi unrhyw sbwriel allan i'w gasglu oherwydd y gwyntoedd a bydd y gwasanaeth yn cael ei ohirio ddydd Gwener.
Mae nifer o rybuddion llifogydd "byddwch yn barod", dolen allanol eisoes mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Mae'r corff wedi rhybuddio am effaith "sylweddol" y storm, gan annog pobl mewn ardaloedd arfordirol i gymryd gofal ychwanegol.
Dywedodd Ross Akers o CNC: "Gallai cyflymder y gwynt hefyd arwain at ddifrod mewn sawl ardal.
"Rydym yn annog gofal ac i bawb gadw llygad barcud ar ragolygon y tywydd a gwefan CNC am y rhybuddion llifogydd diweddaraf.
"Os ydych chi'n byw yn agos at, neu'n ymweld ag ardal arfordirol, byddwch yn ofalus iawn a chadwch bellter diogel oddi wrth lwybrau arfordirol a phromenadau oherwydd gall tonnau mawr eich ysgubo oddi ar eich traed neu gallwch gael eich taro gan falurion."
Ni fydd teithiau fferi rhwng Abergwaun a Rosslare ar ôl 23:45 nos Iau.
Mae gyrwyr yn ne Cymru'n cael eu hannog i deithio dim ond os oes angen, gyda disgwyl oedi ar y ffyrdd.
Cafodd y gêm rygbi rhwng Caerdydd a Zebre, oedd i fod i gael ei chynnal nos Wener, ei gohirio.
Gofynnodd Maes Awyr Caerdydd ar bobl sy'n bwriadu hedfan ddydd Gwener i wirio'r manylion diweddaraf gan eu cwmni awyrennau yn rheolaidd.
Yn y gogledd, mae agoriad swyddogol ffordd osgoi'r A487 yng Nghaernarfon wedi ei ohirio oherwydd y tywydd.
Fe fydd y ffordd newydd yn agor ddydd Sadwrn yn hytrach na ddydd Gwener er mwyn "osgoi unrhyw deithio diangen", meddai'r llywodraeth.
Yn y cyfamser, mae un pennaeth ysgol wedi dweud ei bod yn "llawer gwell ac yn haws" pan mae cynghorau lleol yn penderfynu cau ysgolion yn sgil tywydd garw.
Dywedodd John Hayes, pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr yng Nghaerdydd, ei fod yn "gwerthfawrogi" bod cyngor y ddinas wedi gwneud penderfyniad cyflym ar ôl i'r rhybudd tywydd symud i goch.
"Mae'n benderfyniad y byddai prifathrawon mwy na thebyg wedi ei gymryd yn unigol beth bynnag," meddai.
"Mae'n llawer haws ac yn llawer gwell i ysgolion pan mae'r penderfyniad yn cael ei wneud ar y cyd ar ran ysgolion gan swyddogion yr awdurdod lleol."
Bydd y dysgu yn symud ar-lein ddydd Gwener ym Mhlasmawr, ychwanegodd Mr Hayes.
"Bydd 'na waith yn cael ei osod yn ddigidol ac fe fydd 'na ychydig o wersi ar lein yn digwydd yfory."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2022