Beth sydd wedi arwain at y sefyllfa yn Wcráin?

Mae lluoedd Rwsia wedi lansio ymosodiad ar Wcráin ddydd Iau, gyda thaflegrau wedi taro dinasoedd a thargedau milwrol, a milwyr yn croesi'r ffin yn eu heidiau.

Wedi dyddiau o densiynau cynyddol a thrafodaethau rhyngwladol i geisio atal rhyfel, fe gyhoeddodd Vladimir Putin bod "ymgyrch filwrol arbennig" ar droed yn rhanbarth Donbas i "ddadfilwreiddio" Wcráin.

Mae'r datblygiadau dros nos a thrwy gydol ddydd Iau "yn arswydus ac yn warthus" yn ôl Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

Ond beth sydd wedi arwain at y sefyllfa bresennol?

Iwan Griffiths fu'n egluro ar raglen Newyddion S4C, gyda help Martin Morgan o Adran Glustfeinio'r BBC.