Ymgyrch 'arswydus a gwarthus' gan Rwsia yn erbyn Wcráin

  • Cyhoeddwyd
Siel ar stryd yn KiyvFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Siel a laniodd ar stryd ym mhrifddinas Wcráin, Kyiv, oriau wedi dechrau ymosodiad Rwsia ar y wlad

Mae gwleidyddion o Gymru wedi ymuno â'r feirniadaeth ledled y byd i ymosodiadau milwrol gan Rwsia ar Wcráin a ddechreuodd yn gynnar ddydd Iau.

Wedi dyddiau o densiynau cynyddol a thrafodaethau rhyngwladol i geisio atal rhyfel, fe gyhoeddodd Vladimir Putin bod "ymgyrch filwrol arbennig" ar droed yn rhanbarth Donbas i "ddadfilwreiddio" Wcráin.

Mae'r datblygiadau dros nos, yn cynnwys ymosodiadau ar sawl dinas, "yn arswydus ac yn warthus" yn ôl Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

Dywedodd bod "rhaid i'r gymuned ryngwladol nawr sefyll gyda phobl yr Wcráin yn erbyn yr ymddygiad ymosodol diachos hwn".

Disgrifiad,

Beth sydd wedi arwain at y sefyllfa bresennol yn Wcráin? Clip o Newyddion S4C

Dywedodd Mr Drakeford wrth y BBC y bydd angen i bobl yng Nghymru fod yn barod i "wneud rhai aberthau" er mwyn sefyll mewn undod gyda phobol yr Wcráin.

Galwodd am sancsiynau gan y DU a fydd, meddai, yn effeithio ar "bob un ohonom".

"Mae angen i'r byd i gyd weithredu mewn undod i'w gwneud yn glir i arweinwyr Rwsia na allwch chi weithredu fel hyn," meddai.

'Brathu yr economi'

Galwodd Mr Drakeford am sancsiynau "sydd wir yn gwneud gwahaniaeth, yn brathu economi'r wlad sydd wedi lansio'r ymosodiad hwn".

"A bydd hynny'n golygu y bydd pob un ohonom ni'n teimlo effaith hynny."

Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Nos Iau cafodd y Senedd ei goleuo yn lliwiau baner Wcráin

Eglurodd: "Rydyn ni'n gwybod i ba raddau mae sawl rhan o Ewrop yn ddibynnol ar Rwsia am eu cyflenwad ynni.

"Bydd hynny'n gyrru pris ynni i fyny ar draws y byd a byddwn yn gweld effaith hynny yn y Deyrnas Unedig.

"Rydym yn ddibynnol ar Rwsia am nifer o gemegau sy'n cael eu defnyddio yn y Deyrnas Unedig - yn y tymor byr, bydd yn rhaid i ni wneud trefniadau amgen ar gyfer y pethau hynny hefyd.

"Ond y peth pwysig yw bod yn barod ar gyfer hynny, oherwydd trwy gymryd y camau hynny byddwn yn atal ailadrodd y digwyddiadau ofnadwy rydyn ni'n eu gweld yn yr Wcráin mewn mannau eraill yn y byd."

'Rhyfel na allai Wcráin ei ennill'

Mae'n ymgyrch "ar raddfa lawn ymhob rhan o'r wlad", medd Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, Mick Antoniw, sydd o dras Wcreinaidd.

Mae'r AS Llafur ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, newydd ddychwelyd i Gymru ar ôl ymweld â'r wlad, ac mae'n dweud ei bod yn "derbyn negeseuon a fideos gan ffrindiau ar draws Wcráin".

Dywedodd wrth raglen Radio Wales Breakfast: "Mae hwn yn ryfel na allai Wcráin ei ennill oherwydd maint yr ymosodiad milwrol."

Mae adroddiadau'n awgrymu bod milwyr Rwsia wedi croesi'r ffin mewn sawl man o gyfeiriadau'r gogledd, y de a'r dwyrain, gan gynnwys o Felarws.

Ffynhonnell y llun, Mick Antoniw
Disgrifiad o’r llun,

Ymwelodd Mick Antoniw ac Adam Price ag Wcráin gan ddychwelyd i Gymru ddydd Mercher

"Mae aelodau fy nheulu wedi cael eu galw [gyda chais i ymuno â] milwyr wrth gefn," meddai. "Mae ffyrdd yn cael eu blocio wrth iddyn nhw geisio cyrraedd y ffin orllewinol."

"Mae miliynau o bobl wedi cael eu galw lan. Mae pobl yn barod i ymladd. Mae'n gwneud i mi deimlo'n euog bod rhaid gadael ar frys i osgoi'r hyn roedden ni'n gwybod oedd ar fin digwydd, sef ymosodiad unrhyw funud ar Wcráin."

Ychwanegodd: "Rhaid i ni weld sut gallwn ni gefnogi teuluoedd sy'n byw yng Nghymru a chefnogi perthnasau sydd wedi eu galw i'r rhyfel."

'Moment hanesyddol'

Ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fe fynegodd Adam Price dristwch yn sgil "gweld tanciau'n gorestyn" a phrifddinas "o'n i'n cerdded ar hyd ei strydoedd yn ystod y dyddie diwetha nawr yn dod yn o dan ymosodiad milwrol".

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Plaid Cymru 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Plaid Cymru 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

"Mae e'n rywbeth sydd ddim wedi digwydd yn ein bywyde ni," dywedodd. "Mae e'n foment hanesyddol, ac mae'n galw ni gyd, wi'n credu, i sefyll ochr yn ochr gyda phobl Wcráin yn y sefyllfa echrydus maen nhw ynddi.

"Dwi di medru dod nôl a rhoi cwtsh i 'mhlant i y bore ma'. Beth am y bobol nes i gwrdd â nhw? A fydden nhw'n gallu neud hwnna?

"Dyna'r rheswm o'n i mas yna, fel bod ni'n gallu siarad - yn angerddol nawr - bod rhaid i ni gefnogi'r bobol hyn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Teulu'n cysgodi mewn gorsaf metro yn y brifddinas Kyiv fore Iau

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies bod y newyddion dros nos "yn destun gofid dwys ac yn dangos pa mor fregus yw heddwch yn nwyrain Ewrop".

Disgrifiodd yr Arlywydd Putin a'i bartneriaid fel "arweinwyr ffiaidd gweinyddiaeth Rwsiaidd ymosodol ac ehangol y mae'n rhaid eu galw i gyfrif yn syth".

Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i'r byd sefyll yn gadarn gyda Llywodraeth Wcráin a gwarchod ei sefyllfa fel gwlad rydd a democrataidd.

"Rhaid i'r gynghrair ddemocrataidd ddarparu'r holl gefnogaeth sydd ei angen nawr i wireddu'r nod yna a helpu'r ffoaduriaid y mae pob rhyfel, yn annatod, yn eu creu.

"Rhaid i Putin wybod yn ddiamau na fydd gwledydd democrataidd y byd yn sefyll i'r neilltu a gadael i'w weithredoedd ymosodol ddigwydd yn ddirwystr. Os wnawn ni hynny, bosib taw Wcráin sy'n dioddef heddiw, ond fe ellid fod yn rhywun arall yfory."

Ffynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Traffig trwm ar un o'r ffyrdd o ddinas Kiyv wrth i bobl anelu am y ffin gyda Gwlad Pwyl

"Mae hwn yn ddiwrnod tywyll eithriadol i Ewrop a'r byd," yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds.

"Mae ymosodiad gweinyddiaeth Rwsia ar Wcráin yn drasiedi ddynol ofnadwy sy'n datblygu o'n blaenau.

"Ni wnaiff unrhyw beth roi stop ar uchelgeisiau lloerig Putin. Ar ei ddwylo ef y mae gwaed pob person Wcreinaidd sy'n marw yn yr ymosodiad hollol ddiachos ac anghyfreithlon hwn."

Ychwanegodd y gallai'r ymosodiad "deimlo fel gwrthdaro pell i lawer yng Nghymru, ond rhaid bod yn ddiwyro ein cefnogaeth i ryddid Wcráin neu wynebu'r canlyniadau yn y dyfodol".

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl wedi bod yn cysgodi dan ddaear mewn gorsafoedd metro ers dechrau'r ymosodiad

Wrth siarad ar raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru, dywedodd Nia Griffith, AS Llanelli dros y blaid Lafur a chyn-lefarydd y blaid ar amddiffyn, "mae hyn yn ymosodiad ofnadwy gan Rwsia ar wlad ddemocrataidd. Mae hyn nid yn unig yn ymosodiad ar Wcráin ond yn erbyn democratiaeth.

"Mae'n sefyllfa ddifrifol iawn, gyda Rwsia yn defnyddio'r môr, awyr, tir, seibr a phropaganda, ar ôl cymaint o baratoi.

"Mae'n rhaid inni sicrhau bod gwledydd y byd yn unedig iawn - o ran y G7, y Cenhedloedd Unedig a NATO - nid yn unig i gryfhau sancsiynau, nid yn unig yn erbyn unigolion sy'n agos iawn i Putin, ond hefyd sicrhau ei bod yn amhosib i Rwsia godi arian ar farchnadoedd rhyngwladol, ac yn amhosib i ddefnyddio'r systemau bancio, er mwyn sicrhau bod sancsiynau mor gryf ag sy'n bosib."

Ond rhybuddiodd y "byddai anfon milwyr i mewn yn gam cryf iawn ac yn pryfocio cymaint o ymateb o Rwsia."

'Dweud celwydd wrth y byd'

Dywedodd Glyn Davies, cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, ar Dros Ginio, "dyw heddiw ddim yn sioc i fi".

"Dwi wedi gweld be' mae Putin wedi gwneud dros y misoedd diwethaf, ac mae e wedi bod yn paratoi i wneud hyn gan ddweud celwydd wrth y byd."

Ychwanegodd ei fod yn ofni "mwy na thebyg bydd lot o bobl yn colli eu bywydau".

Galwodd ar "bob llywodraeth yn y gorllewin i weithio gyda'i gilydd… ac ar ôl heddiw dwi'n disgwyl y bydd hynny'n digwydd".

Pynciau cysylltiedig