'Mae gan Gymru hanes o groesawu ffoaduriaid'
Ar ail ddiwrnod ymosodiad Rwsia ar Wcráin mae miloedd o drigolion y wlad yn parhau i geisio cadw'n ddiogel neu ffoi i wledydd cyfagos.
Erbyn dechrau prynhawn Gwener, roedd nifer y meirw yn eu cannoedd yn sgil yr ymgyrch filwrol, ac roedd cerbydau arfog Rwsia'n wedi cyrraedd ardaloedd gogleddol y brifddinas, Kiyv, gan ei thargedu o bedwar cyfeiriad.
Mae'r gymuned ryngwladol yn dechrau ystyried camau i atgyfnerthu trefniadau diogelwch gwledydd sy'n ffinio ag Wcráin.
Dywedodd y Gweinidog Amddiffyn, James Heappey, yn Nhŷ'r Cyffredin y byddai grŵp o aelodau catrawd y Cymry Brenhinol yn cael ei anfon i Estonia yn gynt na'r bwriad yn wreiddiol wrth "ddyblu" maint y presenoldeb milwrol yno.
Mae sawl gwlad wedi datgan bwriad i dderbyn ffoaduriaid, ac mae rhai o awdurdodau lleol Cymru hefyd wedi datgan awydd i helpu mewn ymateb i'r cais angenrheidiol gan Lywodraeth y DU.
Dywed Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ei fod eisoes wedi trafod y posibilrwydd gyda gweinidogion y DU.