'Panig' teulu wrth i filwyr heidio i Wcráin
- Cyhoeddwyd
Ar ail ddiwrnod ymosodiadau Rwsia yn Wcráin, mae myfyrwraig o Gaerdydd wedi disgrifio "panig" teulu yn y wlad pan wnaethon nhw sylweddoli bod ymgyrch filwrol wedi dechrau.
Roedd yna gyfnod ddydd Iau, medd Layla Agha, wedi i'r bomio ddechrau pan nad oedd modd i'w pherthnasau gael cadarnhad o unrhyw ffynhonnell beth oedd yn digwydd.
"Oedd fy modryb yn dweud bod pawb wedi mynd i checko eu ffonau a'r teledu ond doedd dim byd yn gweithio," meddai ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.
"Dyna pryd 'naeth y panig go iawn ddechrau, wrth weld bod y rhyngrwyd wedi blocio yn hollol o dan y martial law."
Fe ddaeth graddfa'r ymgyrch yn amlwg unwaith yr oedd modd cael signal ffôn a chysylltiad â'r we unwaith yn rhagor.
Fe wnaeth lluoedd Rwsia ymosod ar Wcráin o'r gogledd, dwyrain a'r de ddydd Iau, gyda thaflegrau wedi taro dinasoedd a thargedau milwrol, a milwyr yn croesi'r ffin yn eu heidiau.
Gan rybuddio bod "llen haearn newydd wedi syrthio rhwng Rwsia a'r byd gwaraidd", mae Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky, wedi dweud bod o leiaf 137 o drigolion neu filwyr y wlad wedi eu lladd ar ddiwrnod cyntaf yr ymgyrch.
Cafodd dros 160 eu hanafu ac mae'r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod 100,000 o bobl eisoes wedi'u gorfodi o'u cartrefi.
Mae niferoedd enfawr o bobl wedi bod yn gadael y dinasoedd mawr am ardaloedd cefn gwlad, neu'r ffiniau gyda gwledydd eraill fel Gwlad Pwyl, Hwngari a Moldofa.
O gael sgwrs fer gyda'i modryb yn ninas Dnipro, yng nghanol Wcráin, dywedodd Layla Agha "o'n ni'n gw'bod fod hi'n gwestiwn o 'bryd' yn lle 'os' oedd Rwsia'n mynd i ddechrau [ymgyrch filwrol]".
Roedd rhai pobl, meddai, "wedi rhagfynegi fod Rwsia'n mynd i neud e heddiw", ac yn credu eu bod "yn eitha' parod" i wynebu beth bynnag oedd i ddod ond "pan mae'n dod i realiti mae'n ofnus".
Dywedodd bod gadael y wlad ddim yn opsiwn i'w modryb, sy'n gweithio mewn ysbyty. "Os nad oed car ganddoch chi, 'dach chi'n styc."
'Mae'n anghredadwy - mae'n dorcalonnus'
Mae Natalyia Roach yn byw yn Llanbedr Pont Steffan ers 23 mlynedd ond yn hanu o ddinas Poltava yng nghanol Wcráin.
Dywedodd wrth raglen Radio Wales Breakfast ei bod wedi llwyddo i siarad gyda'i dwy chwaer yn Poltava ddydd Iau ac eto fore Gwener.
"Maen nhw'n ddiogel am y tro," meddai, "ond mae cryn dipyn yn digwydd yn [ninas] Sumy sydd tua 92 cilomedr i ffwrdd, ac maen nhw'n barod [i ymateb] - mae gyda nhw eu dogfennau yn barod.
"Chi ddim yn gwybod beth i'w ddweud yn y fath sefyllfa. Mae'n dorcalonnus i weld eich perthnasau a holl bobl Wcráin yn mynd trwy hyn.
"Mae'n anghredadwy. Mae'n rhaid iddyn aros ble maen nhw am y tro. Maen nhw'n gwybod ble i gael lloches rhag bomio, rhag ofn bydd byddin Wcráin ar y strydoedd yn paratoi am ymosodiad.
"Maen nhw'n barod - maen nhw'n barod i amddiffyn eu hunain."
Am gyfnod o dros flwyddyn tan fis Ionawr, fe fu'r newyddiadurwr o Gaerdydd, Jess Daly, yn cofnodi bywyd yn rhanbarth Donbass a gwaith bataliwn meddygol gwirfoddol.
A hithau bellach yn dilyn y gwrthdaro o bell nôl yng Nghymru, mae hi wedi llwyddo i gysylltu gyda ffrindiau yn Wcráin ers bore Iau.
"Mae pobl wedi dychryn," meddai. "Rwy' wedi siarad gyda llawer o bobl - rhai ar gyrion Kiyv a gafodd eu taro neithiwr, ac eraill yn y brifddinas oedd funudau i ffwrdd o'r ffrwydradau.
"Y teimlad yn gyffredinol yw y bydd pobl ar y rheng flaen, fel meddygon, yn aros ble maen nhw. Mae llawer yn Kiyv yn ceisio cadw'n ddiogel dan ddaear."
Ar raglen Radio Wales Breakfast, fe anghytunodd cyn lysgennad y DU i'r Cenhedloedd Unedig, Syr Emyr Jones Parry, ag awgrym Ysgrifennydd Amddiffyn y DU, Ben Wallace, bod ymdrechion diplomyddol "wedi eu tynnu oddi ar y bwrdd" yn gyfan gwbl.
"Yr hyd sydd oddi ar y bwrdd yw unrhyw drafodaeth gyda Rwsia i ganfod datrysiad diplomyddol, ond fe fydd yna gryn weithgaredd diplomyddol," meddai'r Cymro oedd hefyd yn arfer cynrychioli'r DU o fewn NATO.
Mae gwledydd y gorllewin wedi cyhoeddi nifer o sancsiynau difrifol ar Rwsia mewn ymateb i'r ymosodiad ar Wcráin.
Nod y mesurau hynny yw cael effaith andwyol ar economi Rwsia, ac felly gorfodi Vladimir Putin i atal ei ymgyrchoedd milwrol.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd prif fanciau Rwsia yn cael eu gwahardd o system ariannol y DU, ac mae oligarchiaid wedi cael eu targedu gan sancsiynau.
Dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson wrth Dŷ'r Cyffredin mai dyma'r "pecyn mwyaf eang a mwyaf difrifol o sancsiynau economaidd mae Rwsia wedi'i weld erioed".
Cafodd protestiadau yn erbyn y rhyfel eu cynnal ar draws y byd nos Iau, gan gynnwys yn Rwsia, ble cafodd dros 1,700 o bobl eu harestio yn ystod ralïau mewn dinasoedd fel Moscow a Saint Petersburg.
Nos Iau dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wrth y BBC y bydd angen i bobl yng Nghymru fod yn barod i "wneud rhai aberthau" er mwyn sefyll mewn undod gyda phobl Wcráin.
Galwodd am sancsiynau gan y DU a fydd, meddai, yn effeithio ar "bob un ohonom".
"Mae angen i'r byd i gyd weithredu mewn undod i'w gwneud yn glir i arweinwyr Rwsia na allwch chi weithredu fel hyn," meddai.
Galwodd Mr Drakeford am sancsiynau "sydd wir yn gwneud gwahaniaeth, yn brathu economi'r wlad sydd wedi lansio'r ymosodiad hwn".
"A bydd hynny'n golygu y bydd pob un ohonom ni'n teimlo effaith hynny."
Apêl i uno, trafod a gweddïo
Mae Archesgob yr Eglwys yng Nghymru wedi dweud ei fod yn uno gydag arweinyddion gwleidyddol ac eglwysig i gondemnio gweithredoedd Rwsia ac i alw am drafod.
"Rwy'n eich gwahodd," meddai'r Gwir Barchedicaf Andy John mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, "i ymuno â mi i weddïo dros y rhai sy'n cael eu heffeithio ac am heddwch."
Mae Cymdeithas y Cymod yn rhannu pamffledi mewn trefi a dinasoedd ar draws Cymru i gryfhau'r neges am gymodi wrth i'r sefyllfa waethygu yn Wcráin a'r wythnos nesaf fe fyddant yn cynnal cyfarfod rhithiol gydag heddychwyr yn y wlad.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2022