Recordio cerddoriaeth drill yn Gymraeg i ymateb i hiliaeth plentyndod

Mae Sage Todz yn rapiwr 22 oed sy'n ceisio gwneud synnwyr o brofiadau ei fagwraeth drwy ysgrifennu cerddoriaeth rap a hip-hop o'i stafell yn Llundain.

Un bore ym Mehefin 2020, deffrodd Toda Ogunbanwo a'i deulu ym Mhenygroes, Gwynedd i arwydd swastika wedi ei baentio ar wal eu garej.

Ag yntau a'i deulu wedi byw yn y pentref ers 13 mlynedd, mae Toda'n dweud mai nid dyma oedd yr unig ddigwyddiad hiliol iddo brofi.

Ym mis Chwefror 2022, rhyddhaodd EP Sage Mode lle mae'n portreu ei brofiadau o hiliaeth a'i fagwraeth fel yr unig hogyn ifanc du yn Nyffryn Nantlle.