Y gân 'drill' Gymraeg sydd wedi mynd yn feiral

  • Cyhoeddwyd
Toda OgunbanwoFfynhonnell y llun, Toda Ogunbanwo
Disgrifiad o’r llun,

Toda Ogunbanwo

Un bore ym mis Mehefin 2020 deffrodd Toda Ogunbanwo a'i deulu ym Mhenygroes, Gwynedd i arwydd swastika wedi ei baentio ar wal eu garej.

Ag yntau a'i deulu wedi byw yn y pentref ers 13 mlynedd, mae Toda'n dweud mai nid dyma oedd yr unig ddigwyddiad hiliol iddo brofi.

Rŵan, o dan yr enw Sage Todz mae'r rapiwr 22 oed yn ceisio gwneud synnwyr o brofiadau ei fagwraeth drwy ysgrifennu cerddoriaeth rap a hip-hop o'i stafell yn Llundain.

Ym mis Chwefror 2022 rhyddhaodd EP Sage Mode lle mae'n portreu ei brofiadau o hiliaeth a'i fagwraeth fel yr unig hogyn ifanc du yn Nyffryn Nantlle.

Mae o hefyd wedi rhyddhau fideo ar y we sy'n cynnwys drill yn yr iaith Gymraeg - sef math o gerddoriaeth hip-hop a rap - sydd wedi denu sylw miloedd ar filoedd ar draws Cymru, ac mae'n addo rhannu mwy.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Sage todz

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Sage todz

Ond cyn hynny mae Toda yn awyddus i bobl glywed yr hyn sydd ganddo i'w rannu ar ei EP Saesneg - sef adlewyrchiad o realaeth ei fywyd fel person du yng Nghymru wledig.

'Dysgu yn gyflym'

"Mae o yn disgusting... rhywun yn trio ofni ni yn gwneud rwbath fel 'na," meddai Toda, wrth gofio yn ôl at ddigwyddiad y swastika.

"Mae 'na ddywediad yn Saesneg... It's the feather that broke the camel's back. Dyna oedd hwnna. Dwi wedi cael gwaeth a petha' lot fwy personol yn digwydd i fi fyny at hyn.

"Trwy plentyndod fi dwi di gwynebu dipyn o challenges a struggles. Dwi 'di experiencio rhai pethau sydd ddim mor dda i blentyn ddelio efo fo."

Ffynhonnell y llun, Toda Ogunbanwo
Disgrifiad o’r llun,

Toda Ogunbanwo. Rhyddhaodd ei EP cyntaf 'Sparetime' yn 2020 sydd hefyd yn bortread o fywyd unig fel plentyn du yng ngogledd Cymru

Pan symudodd teulu Toda o Essex i Benygroes yn 2007, fuodd rhaid i Toda, sydd bellach yn ei flwyddyn olaf yn astudio cwrs chwaraeon yng Ngholeg Brunel yn Llundain "ddysgu yn gyflym" o oedran cynnar iawn.

"Roedd pobl yn galw fi yn yr 'N word', roedd pobl yn poeri yn dŵr fi ac isio cychwyn ffeits. Mae'r list yn mynd on ag on."

Mae cerddoriaeth erbyn hyn yn le iddo fynegi ei hun ac yn ofod iddo ryddhau'r teimladau chwerw yn ei galon.

"Rŵan dwi'n ddyn dwi'n gallu expressio'r teimladau 'ma mewn ffordd iachus drwy miwsig fi."

Ffynhonnell y llun, Toda Ogunbanwo
Disgrifiad o’r llun,

Toda yn ei stafell yn Llundain

Sage Mode

Trwy EP Sage Mode clywn Toda yn trafod hiliaeth, ei hunaniaeth, Cymreictod, iechyd meddwl, teulu a'i ymgais i ddianc ardal lle na deimlodd groeso yn ystod ei blentyndod.

"Mae Sage Mode ynglŷn â'r pentra', a lle dwi'n dod o, sut dwi 'di cael fy magu a sut dwi 'di dysgu am fi fy hun a jest tyfu fel person mewn ardal eithaf gwahanol i ella oni'n ddisgwl," meddai Toda.

"Mae 'na wahaniaeth massive rhwng rwla fel Llundain a rwla fel Cymru - rhai pethau da, rhai pethau o'n i'n strugglo efo. Pethau fel bod yr unig berson du neu rhai o'r unig bobl Saesneg.

Ffynhonnell y llun, Toda Ogunbanwo
Disgrifiad o’r llun,

Gyda'i ffrindiau yn Llundain yn ffilmio i gyfres Hansh GRID

"O'n i isho condensio rhai o experiences fi a teimladau fi. Mae gen i gân o'r enw 'Who Can I Be?' Mae o ynglŷn â pwy ydwi, pwy dwi'n gallu bod, be ydi bywyd?"

Un elfen amlwg ydi cariad Toda at ei deulu. At ei fam, ei dad, a'i chwaer a, thrwy gyfnodau o iselder ac unigedd, gwaed a chariad oedd yn dal bob dim at ei gilydd.

"Mae 'na ddarnau o bywyd fi lle dwi 'di teimlo'n eithaf depressed ac wedi teimlo'n lonely iawn, mae hwnna yn theme o ran fwyaf o childhood fi yng Nghymru," meddai.

"Teulu fi oedd yr unig rai oedd efo fi wrth i fi fynd drwy'r amseroedd hyn. Teulu 'di'r unig bobl sydd efo cefn fi drwy bob dim, sy'n supportio fi a chefnogi fi bob dim.

"I owe everything to my family. Dyna'r thema sydd yn dod fyny yn yr EP."

Rapio yn y Gymraeg

Yn ôl Toda mae ganddo "lot i edrych mlaen ato" ym myd cerddoriaeth sy'n cynnwys rhyddhau drwy'r Gymraeg. Mae ei fideo bellach wedi cael dros gan mil o wylwyr ar-lein ac mae'n bwriadu ei throi hi'n gân lawn yn dilyn yr ymateb.

"Oni ddim yn disgwl i'r peth fynd mor fawr ond oni'n gwbod fysa Cymru yn cefnogi fi achos does 'na lot o bobl ddim yn gwneud drill yn Gymraeg.

"Mae 'na demand uwch rŵan am gân Gymraeg o'r fideo 'na felly wnâi drio fy ngorau i gael hwnna wedi gorffen yn yr wythnosau nesa. Fydd 'na gerddoriaeth Cymraeg yn y dyfodol er mai Saesneg fydd y rhan fwyaf - Saesneg ydi iaith cyntaf fi.

"Dwi 'di bod isio rhyddhau rwbath yn Gymraeg ers dipyn. Ond oni isio cael Sage Mode allan yn gyntaf a chael pobl i wrando ar hwnna... mae gen i fideo i'r single yn dod allan dydd Sul yma (Mawrth 13)."

Ffynhonnell y llun, Toda Ogunbanwo
Disgrifiad o’r llun,

Toda Ogunbanwo

"Gorfod dod o rwla go iawn"

Daw cerddoriaeth dril, sef math o hip-hop, yn wreiddiol o Chicago yn yr Unol Daleithiau ac yn ogystal â phwyslais ar batrymau dryms unigryw mae trosedd, trais a thywyllwch realiti bywyd yn un o brif themâu'r genre.

"Lot or amser mae'r content yn violent ag am bethau crazy ond dydi o ddim yn grofod bod. Dwi'n gweld drill fel llwyfan i ddangos bach o passion, bod yn chdi dy hun a bod yn wahanol.

"Dwi ddim yn licio gwneud pethau fyny. Mae hwn yn rwla i fi gallu gweithio drwy deimladau fi a thoughts fi mewn ffordd productive. Ac ella fedrith bobl ddallt hynna ag enjoio'r cerddoriaeth.

"O ran be dwi'n ddeud - mae'n amser i ddangos bach o ochr aggressive cerddoriaeth fi. Dwi'n canu hefyd... ond mae'n amser i fi ddangos pa mor dda dwi'n gallu rapio."

Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar YouTube
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
I osgoi fideo youtube gan Sage Todz - Topic

Caniatáu cynnwys YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
Diwedd fideo youtube gan Sage Todz - Topic

Er ei fod yn cydnabod fod y sin yma yn tyfu yng Nghaerdydd ag Abertawe, yn ôl Toda mae angen mwy o'r math yma o gerddoriaeth yn y Gymraeg.

"Dwi'n meddwl bod o'n bryd i rhywun drio rwbath gwahanol yn y sin music Cymraeg. Mae 'na lot o bobl ifanc yn gwrando ar hip-hop a urban music. Ond does 'na ddim lot o'r gerddoriaeth yna yn cael ei representio yn y Gymraeg, ddim yn y gogledd be bynnag.

"Mae gen i gariad mawr i Gymru ac mi fydd y music yn dod. Mae gen i lot dw'i isio gwneud, ac mae'r Gymraeg yn ddarn ohono fo."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig