Côr newydd i ferched ym Môn yn 'cymryd y cam cyntaf'

Mae yna bryderon wedi bod yn ddiweddar am yr effaith y mae'r pandemig wedi'i gael ar ganu a chanu corawl yng Nghymru, gyda rhai arweinyddion yn poeni bod llai yn ailgydio ynddi.

Ond mae hi'n stori wahanol ar Ynys Môn, wrth i gôr newydd ddechrau ymarfer ym mhentref Benllech nos Fawrth.

Côr merched yw Coronwy, sydd wedi'i sefydlu yn ardal Bro Goronwy.

Mae un o sylfaenwyr y côr, Gwen Elin, yn dweud nad ydy'r côr yn gaeedig i bobl yr ardal yn unig a'r gobaith ydy cystadlu yn Eisteddfod Môn mewn tair wythnos.

"Y bwriad wedyn ydy mynd ymlaen i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst," meddai ar Dros Frecwast Radio Cymru.

Mae'n cydnabod fod llawer wedi "colli hyder" yn y canu ers y pandemig ac mae'n pwysleisio'r pwysigrwydd o gymryd y "cam cyntaf".