A fydd llai o bobl yn ailgydio yn y canu ar ôl y pandemig?
- Cyhoeddwyd
Mae yna bryder bod y pandemig wedi cael effaith ofnadwy ar ganu yng Nghymru, gan effeithio ar safon y corau.
Mae arweinyddion hefyd yn poeni bod llai yn ailgydio ynddi oherwydd bod pryderon yn parhau am ddal Covid.
Mae corau fel Only Boys Aloud wedi gwneud enwau i'w hunain nid yn unig yng Nghymru ond yn rhyngwladol hefyd, ond fe wnaeth Covid roi stop ar y gân am y tro.
Rŵan mae eu harweinydd Tim Rhys-Evans yn poeni y bydd effaith tymor hir ar gorau a chanu yn gyffredinol ar hyd a lled Cymru.
Dywedodd Mr Rhys-Evans, sydd hefyd yn gyfarwyddwr ar Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru: "Dwi'n poeni'n fawr iawn am y ffaith bod shwt gymaint o gerddorion dros Gymru i gyd ddim wedi cael y cyfle i ddod at ei gilydd i ganu, i chwarae offerynnau pres, offerynnau gwynt.
"Ry'n ni gyd mor out of practice o ddod at ein gilydd."
'Caled iawn ar ôl bod mas o'r system'
Mae wedi cymryd dyfalbarhad a blynyddoedd o ymarfer cyson i gantorion fel Elin Manahan Thomas gyrraedd ei safon, ond mae peidio â chanu yn cael effaith uniongyrchol ar y corff, a safon y canu, meddai.
"Ni'n meddwl am ganu fel crefft. Mae'n grefft sydd angen pob math o sgiliau, ond hefyd mae'n rhywbeth corfforol, ymarferol, a dyna lle mae hud a lledrith canu wedi cwympo yn ddarnau.
Ychwanegodd: "Mae yna lot mwy i ganu sy'n bwysig i gadw fynd. Mae'r pandemig 'di rhoi clo ar yr ochr gorfforol.
"Y prif wahaniaeth yw'r anadlu a'r cyhyrau - ma' gyda ni muscle memory.
"Heb bo' ti'n cadw hwnna lan ac yn ymarfer bob dydd neu bob wythnos, mae'r cyhyrau yn newid a ma' sut ti'n anadlu yn newid.
"Felly mae dod 'nôl i fod yn rhan o gôr - o fod yn uned lle mae dy lais yn gorfod ffitio mewn - yn galed iawn ar ôl bod mas o'r system."
Yn Llangefni mae aelodau Côr Ieuenctid Môn wedi ailddechrau ymarfer ac yma mae 'na hyder at y dyfodol wrth i bobl ifanc gael mwynhau canu gyda'i gilydd unwaith eto yn dilyn dyddiau du Covid.
Dywedodd yr arweinydd, Mari Pritchard: "Dwi'n meddwl bod 'na bryder wedi bod am safon yn gostwng, ond r'argol, yng nghyd-destun y byd a bob dim ar hyn o bryd dyma ydy'r peth lleia' fedrwn ni boeni amdano.
"Dwi wir yn teimlo fel mae'r wythnosau wedi pasio, fel mae'r cystadlaethau, y cyngherddau a ballu wedi ailgydio, buan iawn mae'r safon wedi dod yn ei ôl, a 'da ni'n diolch yn ofnadwy am gael canu eto."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Medi 2021
- Cyhoeddwyd4 Awst 2021
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2022