Teithio llesol: 'Siom' nad yw rhai cynghorau â diddordeb

Does gan rai cynghorau ddim diddordeb mewn gwneud cais am arian ar gyfer llwybrau beicio a cherdded newydd, yn ôl gweinidog Llywodraeth Cymru.

Daw sylwadau Lee Waters wrth i'r llywodraeth gyhoeddi pa awdurdodau fydd yn cael arian o gronfa gwerth £50m.

Ond, mae ambell gyngor yng Nghymru heb gymryd mantais o'r arian sydd ar gael a heb wneud cais.

Mewn ymateb, dywedodd Dafydd Trystan, cadeirydd Bwrdd Teithio Llesol Cymru, ei fod yn "siomedig" ac yn "bryderus" nad oes rhai cynghorau wedi dangos diddordeb yn yr arian sydd ar gael.

Mae'n dweud bod angen llwybrau diogel mewn ardaloedd gwledig yn enwedig.