'Dim diddordeb' gan rai cynghorau mewn llwybrau beic newydd

  • Cyhoeddwyd
Lee Waters
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Lee Waters nad yw rhai cynghorau â diddordeb mewn gwneud cynnig am arian teithio llesol

Does gan rai cynghorau ddim diddordeb mewn gwneud cais am arian ar gyfer llwybrau beicio a cherdded newydd, yn ôl gweinidog Llywodraeth Cymru.

Fe wnaeth Lee Waters ei sylwadau wrth i'r llywodraeth gyhoeddi pa awdurdodau fyddai'n derbyn arian ar gyfer prosiectau eleni.

Mae'n rhaid i gynghorau wneud cais am ran fwyaf yr arian - sy'n dod o gronfa gwerth cyfanswm o £50m.

Dywedodd Mr Waters bod yr argyfwng hinsawdd yn golygu bod angen i awdurdodau lleol "weithredu nawr".

Ni ddywedodd y dirprwy weinidog dros newid hinsawdd at ba gynghorau yr oedd yn cyfeirio.

Ond dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod "cynghorau wedi croesawu'r cynllun hwn".

"Mae ambell gyngor eisoes wedi gwneud cais, ac mae eraill yn gweithio ar geisiadau i ddatblygu prosiectau'n lleol," meddai llefarydd.

Mae pob cyngor yng Nghymru'n derbyn "dyraniad craidd" o o leiaf £500,000 gan y Gronfa Teithio Llesol bob blwyddyn.

Roedd Mr Waters yn siarad yng nghanolfan Pedal Power yng Nghaerdydd - elusen seiclo sydd wedi derbyn arian gan y llywodraeth ac sydd wedi gwario peth o'r arian ar ehangu eu e-feiciau.

Disgrifiad o’r llun,

Jacqui McQuillan: "Mae 'na gymaint o ardaloedd lle nad oes gennym unrhyw lwybrau o gwbl"

Mae Jacqui McQuillan yn byw yng Nghaerdydd ac yn mynd i ganolfan Pedal Power bob wythnos. Mae'n defnyddio e-feiciau yr elusen ac yn dweud eu bod yn "newid byd".

Dywed y byddai'n hoffi gweld rhagor o lwybrau beicio ar y ffyrdd sy'n "frawychus" i deithio arnynt.

"Mae'r rhai sydd gyda nhw yma yn wych, ond mae cymaint o ardaloedd lle nad oes gennym ni lwybrau o gwbl, neu mae gennym ni rai sy'n stopio'n sydyn, a beth sy'n digwydd wedi hynny?"

Fe gafodd cynghorau Cymru eu gwahodd i wneud cais am hyd at bedwar prif gynllun neu becynnau o gynlluniau. Mae arian hefyd yn cael ei roi dan y cynllun llwybrau diogel mewn cymunedau.

Ymysg y ceisiadau buddugol mae'r cynllun yn ardal Cathays yn y brifddinas a fydd yn derbyn £6.3m.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Caerdydd eisoes wedi adeiladu rhai llwybrau newydd

Bydd cyfanswm o £3.4m yn cael ei ddarparu ar gyfer gwelliannau i lwybrau rhwng Pen-y-bont a Phencoed.

Mae arian wedi ei gymeradwyo i gynlluniau gwerth bron i £6m yn Abertawe, gan gynnwys llwybr 2.8km rhwng Penllergaer a Gorseinon, a £1.8m ar gyfer llwybr 2.8km o Benllergaer i Fforest-Fach.

Rhai o'r cynghorau sydd ddim yn derbyn arian tu hwnt i'r dyraniadau craidd yw Wrecsam, Castell-nedd Port Talbot, Gwynedd, Sir Ddinbych a Chaerffili.

'Rhai siroedd ddim yn cyflwyno ceisiadau'

Dywedodd Mr Waters: "Y gwir yw, mae rhai siroedd â mwy o ddiddordeb yn yr agenda hon nag eraill.

"Dyw rhai siroedd ddim yn gwneud ceisiadau. Mae eraill, fel Caerdydd, yn cyflwyno ceisiadau enfawr - ac mae 'na anwastadedd.

"Dwi'n ddigon hapus i ariannu cynghorau uchelgeisiol fel Caerdydd sydd eisiau gwneud y peth iawn a rhoi isadeiledd i mewn.

"Alla' i ddim poeni gormod os na wnaiff cyngor arall wneud cais arall, yn y tymor byr.

"Un o'r sgyrsiau dwi'n ei gael gyda chynghorau yw, 'Sut allwn ni eu helpu i oresgyn y rhwystrau sydd gyda nhw?'"

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Mr Waters bod awdurdodau "wir yn ei chael yn anodd" i recriwtio pobl sydd â sgiliau peirianneg arbenigol ym maes teithio llesol.

"Dyw rhai cynghorwyr ddim yn gwneud ceisiadau gan nad ydyn nhw'n gallu cael y staff i wneud y cais ac adeiladu'r cynlluniau," meddai

"Dyw eraill ddim yn eu rhoi [ceisiadau] i mewn oherwydd does dim diddordeb gyda nhw.

"Mae angen i hynny newid, ac mae angen iddo gael ei herio gan Lywodraeth Cymru a gan bobl leol."

Ychwanegodd bod rhai cynghorau wedi bod yn cyhoeddi argyfwng newid hinsawdd ond mai'r "rhan anodd yw gweithredu".

Disgrifiad,

Mae Dafydd Trystan yn siomedig fod cynghorau heb gymryd mantais o'r cynllun llawn

Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Dafydd Trystan, cadeirydd Bwrdd Teithio Llesol Cymru, ei fod yn siomedig nad ydy rhai cynghorau wedi dangos diddordeb mewn gwneud cais am arian ar gyfer cynlluniau teithio llesol.

"Mae 'na arian sylweddol ar gael... ond mae cyngor fel Cyngor Gwynedd heb gyflwyno'r un cais eleni a dwi'n bryderus am hynny mae'n rhaid i fi gyfaddef," meddai.

Pan ofynnwyd beth oedd y rheswm tu ôl i ddiffyg diddordeb rhai cynghorau, dywedodd: "Mae'n rhaid mai blaenoriaethau yw e.

"Ond y pwynt fydden i'n ei wneud yw gan fod 'na arian sylweddol ar gael, mae dybryd angen mewn ardaloedd gwledig llwybrau diogel a chyfle i bobl gerdded a seiclo, ac felly dwi'n siomedig bod 'na rhai cynghorau ddim wedi cymryd y cyfle yma.

"Mae'n gyfle hefyd efallai i bobl Gwynedd a Wrecsam godi llais a gofyn i'w cynghorwyr nhw 'pam fod hyn ddim yn digwydd?'"

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Rydym wedi bod yn llwyddiannus i dderbyn £500,000 o Gronfa Teithio Llesol ar gyfer y cynlluniau yn y mannau canlynol: Bethel i Gaernarfon, Tywyn i Aberdyfi, llwybr teithio llesol Penrhos, Mynydd Llandygai i Ysgol Bodfeurig a Llanberis i Gaernarfon, yn ogystal â chynllunio gwelliannau ar gyfer Lôn Las Ogwen a Lôn Las Menai."