Joe Healy: 'Nid nifer y siaradwyr sy'n mynd i safio ni'

"Nid nifer y siaradwyr sy'n mynd i safio ni," - dyna neges Joe Healy, Dysgwr y Flwyddyn 2022, fuodd yn adrodd ei gerdd am ddysgu'r Gymraeg ar faes Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.

Daw Mr Healy o Wimbledon yn ne Llundain, ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers degawd.

Targed Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 sy'n cael sylw yn y gerdd.

"Pan ti'n cyfri... ti'n colli golwg ar be' sy'n hyfryd.

"A phwy sy'n cyfri? Wyt ti'n cyfri fi?" mae'n gofyn.