Joe Healy yn cael ei enwi yn Ddysgwr y Flwyddyn 2022
- Cyhoeddwyd
![Roedd Joe Healy dan deimlad pan gafodd ei enwi'n enillydd Dysgwr y Flwyddyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/16BB/production/_126191850_2022_08_03_eisteddfod_mer__fn1_0294.jpg)
Roedd Joe Healy dan deimlad pan gafodd ei enwi'n enillydd Dysgwr y Flwyddyn
Mae Joe Healy wedi cael ei enwi yn Ddysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022.
Roedd 18 o bobl wedi ymgeisio eleni, gyda phedwar yn cyrraedd y rhestr fer.
Y tri arall yn y rownd derfynol oedd Stephen Bale o Fagwyr, Ben Ó Ceallaigh o Aberystwyth a Sophie Tuckwood o Hwlffordd.
Ond Joe Healy ddaeth i'r brig, ac fe gafodd ei anrhydeddu mewn seremoni ym Mhafiliwn y Maes yn Nhregaron ddydd Mercher.
Mae Joe yn derbyn tlws arbennig a £300 yn rhoddedig gan Seiri Rhyddion Talaith Gorllewin Cymru, a bydd yn cael ei wahodd i fod yn aelod o'r Orsedd.
Pwy ydy Joe Healy?
O Wimbledon yn ne Llundain y daw yn wreiddiol, ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers degawd.
Fe ddaeth i'r brifddinas i fynd i'r brifysgol, ac yno y mae wedi aros. Fe ddechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018.
Mae Joe yn angerddol dros y Gymraeg a Chymru, ac yn awyddus i weld yr iaith yn ffynnu yn y dyfodol. Mae hefyd yn ymddiddori mewn gwleidyddiaeth.
Mae'n parhau i fyw yng Nghaerdydd ac yn defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol ym mhob rhan o'i fywyd.
Mae hefyd wedi mynd ati i gefnogi ei gydweithwyr i ddysgu Cymraeg.
![Grey line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/1515E/production/_126066368_1cdaac27-50c4-4fab-85b1-928a934ac1cd.jpg)
Dysgwyr y Flwyddyn 2022: Pwy oedd y tri arall ar y rhestr fer?
![Grey line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/12A4E/production/_126066367_dbd091ea-dba0-4455-aa2b-3725d6ab3931.jpg)
![O'r chwith i'r dde: Stephen Bale, Ben Ó Ceallaigh, Joe Healy a Sophie Tuckwood](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/BEB3/production/_126191884_2022_08_03_eisteddfod_mer__fn5_3359.jpg)
O'r chwith i'r dde: Stephen Bale, Ben Ó Ceallaigh, Joe Healy a Sophie Tuckwood
Y beirniaid eleni oedd Cyril Jones, Elwyn Hughes a Geraint Lloyd.
Wrth siarad ar y llwyfan cyn enwi'r enillydd, awgrymodd Cyril Jones y dylai trefnwyr y Brifwyl wneud dydd Mercher yr Eisteddfod yn 'ddiwrnod y dysgwyr'.
Anogodd hefyd y Brifwyl i roi "tocyn am ddim i bawb sy'n dysgu Cymraeg" ar y diwrnod hwnnw.
Roedd y beirniaid yn gwbl gytûn fod y safon yn uchel iawn unwaith eto, ac y byddai wedi bod yn hawdd iawn i ddewis wyth i fynd yn eu blaenau i'r rownd derfynol.
Ond gan mai dim ond pedwar sy'n gallu cyrraedd y rhestr, dyma barhau i drafod tan iddyn nhw ddod i benderfyniad.
Bydd y pedwar ar y rhestr fer yn derbyn tanysgrifiad blwyddyn i'r cylchgrawn Golwg, a rhoddion gan fudiad Merched y Wawr.
![Eisteddfod](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1920/cpsprodpb/01E7/production/_126078400_363adb8a-d8fd-40dc-8067-d4cb5885cdaf.jpg)
![Eisteddfod](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1920/cpsprodpb/5007/production/_126078402_efbaf687-1972-4911-9bad-fd09b0c26df0.jpg)
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2022