Sgiliau siarad plant: Her ychwanegol yn y Gymraeg
Mae yna ymgyrch yr haf yma i helpu sgiliau cyfathrebu plant bach oherwydd pryderon y gallai datblygiad rhai ohonyn nhw fod wedi arafu oherwydd y cyfnodau clo.
Dywed Llywodraeth Cymru fod cynllun Her Haf Dechrau Siarad yn cynnwys amrywiaeth o dasgau syml ar gyfer teuluoedd er mwyn helpu ceisio mynd i'r afael â'r sefyllfa.
Mae Dr Rebecca Ward o adran seicoleg Prifysgol Abertawe yn astudio anableddau datblygiadol, yn benodol ymhlith plant sy'n siarad Cymraeg a Saesneg.
Dywedodd ar raglen Dros Frecwast fod yr ymgyrch yn un "amserol iawn" gan fod "teuluoedd yn poeni am effaith y pandemig ar ddatblygiad ieithyddol plant".
Ychwanegodd fod hynny'n her ychwanegol i blant sy'n mynd i ysgolion Cymraeg, ond ble nad Cymraeg yw iaith y cartref.